Jonathan Pryce ac Anthony Hopkins yn cael enwebiad Oscar
- Cyhoeddwyd

Syr Anthony Hopkins a Jonathan Pryce sy'n chwarae rhannau'r Pab Benedict a'r Cardinal Bergoglio, cyn cael ei ddewis i'w olynu fel y Pab Francis
Mae dau actor o Gymru wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r Oscars 2020.
Mae Jonathan Pryce, sy'n hanu'n wreiddiol o Garmel ger Treffynnon yn Sir y Fflint, wedi ei enwebu yng nghategori'r Actor Gorau am ei ddehongliad o'r Pab Francis yn y ffilm 'The Two Popes'.
Ei gyd-seren yn y ffilm yw Syr Anthony Hopkins, sy'n chwarae rhan y Pab Benedict.
Mae'r actor o Bort Talbot wedi ei enwebu yng nghategori'r Actor Cynorthwyol Gorau.
Hwn yw'r tro cyntaf i Pryce, 72, gael ei enwebu ar gyfer prif seremoni wobrwyo'r diwydiant ffilm, ond mae wedi ennill Tonys ac Oliviers - prif wobrau actio byd y theatr yn y gorffennol.
Dywedodd Pryce ar Radio Wales brynhawn Llun: "Doeddwn ni ddim yn disgwyl dim byd ar ôl peidio cael un rhywbeth yn y Golden Globes - o'n i'n dweud wrth bobl do'n i ddim yn disgwyl cael fy enwebu.
"Bore 'ma ro'n i'n cael cawod ac yn eistedd ar ymyl y gwely yn rhoi fy sanau ymlaen pan glywais i fy enw ac o'n i ar ben fy nigon - o'n i'n teimlo'n emosiynol a dweud y gwir.
"Rwy'n paratoi am siom ac wedyn pan mae pethau'n mynd yn dda mae'n annisgwyl.
"Mae hwn yn uchafbwynt ond mae'n teimlo fel bod e 'di bod yn amser hir yn cyrraedd!"

Mae Syr Anthony Hopkins wedi cael ei enwebu pump gwaith o'r blaen
Mae Syr Anthony wedi ennill y ddelw aur unwaith o'r blaen.
Roedd yn brif actor yn 1992 gyda'i bortread o Hannibal Lecter yn y ffilm 'The Silence of the Lambs'. Hwn yw'r pumed tro iddo gael ei enwebu.
Mae 'The Two Popes', sydd wedi ei chynhyrchu gan Netflix, yn edrych ar y cyfeillgarwch rhwng y Pab Francis a'i ragflaenydd yn y cyfnod yn 2013 pan gafodd arweinyddiaeth yr Eglwys Babyddol ei throsglwyddo i'r gŵr o'r Ariannin.
Bydd seremoni'r Oscars yn cael ei chynnal ar 9 Chwefror yn Los Angeles.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020