£1.3m ychwanegol i'r Urdd i'w helpu 'i ailadeiladu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Baner yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £1.3m ychwanegol i'r Urdd i helpu'r mudiad ieuenctid "ailadeiladu" wedi'r pandemig.

Bydd yr arian yn helpu'r mudiad "unigryw" i ddiogelu swyddi a dechrau creu rhai newydd, medd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.

Ychwanegodd: "Bydd dros 60 o staff ychwanegol yn cael eu cyflogi, ac mae gan yr Urdd gynlluniau i greu hyd at 300 o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg newydd dros y tair blynedd nesaf."

Wrth lansio ymgyrch casglu arian newydd fis Tachwedd y llynedd, dywedodd yr Urdd eu bod wedi colli 49% o'i weithlu oherwydd y pandemig.

Mae Eisteddfod yr Urdd, oedd i fod i ddigwydd yn Sir Ddinbych yn 2020 yn wreiddiol, hefyd wedi cael ei gohirio tan 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan yn annerch cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher

Dywedodd Eluned Morgan yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru fod yr Urdd "yn un o brif gyflogwyr trydydd sector Cymru sy'n cynnig ystod eang o brofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc".

Mae hynny yn ei dro, meddai, yn helpu Llywodraeth Cymru gyrraedd ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn Cymraeg 2050 a "helpu cynnig prentisiaethau cymunedol i bobl ifanc".

Cyfeiriodd at bwysigrwydd cefnogi plant a'r sector greadigol drwy'r pandemig, gan eu disgrifio fel dau grŵp sydd "wedi dioddef mewn ffordd hynod" yn y flwyddyn ddiwethaf.

Ymhlith y mudiadau sydd wedi elwa o'r Gronfa Adfer Diwylliannol yw Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

Yn ôl Ms Morgan, mae'r ymddiriedolaeth yn dweud y bydd y cyllid "yn helpu cynnal ei gweithlu a gwella'r hyn y gall ei gynnig" pan fydd y Ganolfan Iaith Genedlaethol yn gallu ailagor i'r cyhoedd.

Pwysleisiodd Ms Morgan bod cael plant a phobl ifanc yn ôl yn yr ysgolion yn flaenoriaeth wrth i weinidogion adolygu'r cyfnod clo presennol cyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Gwener.

Gyda'r plant ieuengaf yn dechrau dychwelyd i'r ysgol o 22 Chwefror ymlaen, dywedodd y bydd mwy yn gallu gwneud hynny hefyd dros yr wythnosau nesaf "wrth i'r sefyllfa iechyd cyhoeddus barhau i wella".

Ond mae'n cydnabod fod dysgu o adref wedi bod yn her i lawer, gan gynnwys i rieni.

Oherwydd hynny, meddai, bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £15m yn rhagor mewn technoleg addysg dros y flwyddyn ariannol nesaf i wella cysylltedd ysgolion a'u disgyblion.