Meddygfeydd yn 'wynebu colli miloedd' am fethu cyrraedd targed
- Cyhoeddwyd
Mae meddygfeydd yn wynebu colledion o filoedd o bunnoedd am nad yw Llywodraeth Cymru'n dileu targed "anghyraeddadwy", yn ôl un meddyg.
Dywedodd wrth BBC Cymru y dylai'r nod - a osodwyd cyn y pandemig - o ateb 90% o alwadau o fewn dau funud gael ei lacio.
Mae cymdeithas feddygol y BMA wedi "dadlau'n gryf" dros ei ohirio.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod Covid yn ei gwneud yn "fwy pwysig" bod galwadau'n cael eu hateb yn brydlon.
Yn ôl un meddyg teulu, mae gan staff meddygfeydd "lwythau gwaith enfawr" eisoes er mwyn darparu brechlynnau, a does ganddyn nhw ddim amser i gyrraedd targedau eraill.
Mewn adolygiad o'r polisi a gyhoeddwyd fis diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru arall-eirio'r targed, ond nid ei ddileu.
Dywedodd y meddyg teulu bod ei feddygfa yn wynebu colli oddeutu £90,000 am na fyddan nhw'n taro'r targed erbyn y dyddiad terfyn o 31 Mawrth.
"Mae meddygon teulu ar draws Cymru wedi'u gwylltio gyda hyn, yn gwbl ddealladwy," meddai'r meddyg.
"Mae fel petai bod dim pandemig. Ar yr un pryd dyw gofal iechyd eilaidd ddim yn cael eu cosbi am beidio darparu gwasanaeth normal, sy'n gwbl iawn.
"Mae'n darged anodd (ei gyrraedd) fel arfer ond ry'n ni'n gweithio'n galed i'w gyrraedd... nid am fod Vaughan Gething yn dymuno hynny ond am mai dyna yr ydym eisiau gwneud.
"Nawr ry'n ni'n gwneud llawer o'r gwaith yn y cynllun brechu sy'n golygu bod ein staff ar y ffôn drwy'r dydd yn ceisio cysylltu gyda'n cleifion.
"Mae disgwyl felly i ni ddarparu gwasanaethau arferol, baich gwaith ychwanegol Covid a'r gwaith brechu... ac yna cael ein cosbi'n ariannol."
Cafodd y nod ei gyhoeddi ym mis Mawrth y llynedd yn dilyn adroddiad Fframwaith Gwella Mynediad i Wasanaethau, gan ddweud y dylai "90% o alwadau gael eu hateb o fewn dau funud i ddiwedd neges wedi ei recordio".
Arhosodd y targed tan fis Ionawr eleni pan gafodd ei aralleirio mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru i ddweud mai'r canlyniad dymunol "fyddai gweld ateb 90% o alwadau o fewn dau funud i ddiwedd y neges ragarweiniol".
Mae wyth o safonau mewn dau gategori - byddai cyrraedd yr wyth nod yn golygu 100 pwynt i feddygfa a bonws o 25 pwynt, a gwobr ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Byddai methu un o'r wyth yn gweld y bonws yn diflannu a'r cyfanswm yn cael ei gwtogi'n sylweddol.
Dywedodd y meddyg a siaradodd gyda'r BBC yn ddienw y byddai meddygfa arferol yn colli mwy na £8,000 drwy beidio cyrraedd y nod dau funud.
'Dadlau'n gryf'
Dr Phil White yw cadeirydd pwyllgor meddygon teulu'r BMA, a dywedodd eu bod wedi "dadlau'n gryf" y dylai'r nod gael ei "ohirio oherwydd bod cymaint mwy o alwadau i mewn ac allan o feddygfeydd oherwydd lwyth gwaith Covid".
"Yn anffodus mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o barhau gyda'r safonau ac er ein dadleuon maen nhw wedi gwrthod ein cais i ohirio'r targed," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu £3.7m yn 2019/20 i feddygfeydd yng Nghymru i fuddsoddi mewn systemau teleffôn digidol er mwyn gwella gwasanaethau i'w cleifion.
"Cafodd £7.5m yn ychwanegol ei glustnodi ym Mehefin 2020 i feddygfeydd oedd yn cyrraedd y targedau.
"Mae'r buddsoddiad yma wedi od yn hanfodol yn ystod y pandemig i gynorthwyo meddygfeydd i ddarparu gwasanaethau dros y ffôn ac ar blatfformau fideo.
"Oherwydd coronafeirws mae'n bwysicach nag erioed fod cleifion sy'n ffonio'u meddygfa yn cael eu galwadau wedi'u hateb yn brydlon er mwyn iddyn nhw dderbyn cyngor a gofal brys.
"Gallai meddygfeydd sy'n cyrraedd y targedau erbyn 31 Mawrth 2021 rannu buddsoddiad ychwanegol o hyd at £9.2m.
"Mae'r cyllid sydd ar gael am gyrraedd y targedau ar ben y £420m sydd eisoes yn cael ei dalu i feddygfeydd ar draws Cymru dros y flwyddyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020