Newidiadau i wella gwasanaeth tu allan i oriau 'bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi newidiadau dros dro yn y gobaith o wneud hi'n haws i gleifion weld meddyg tu allan i oriau meddygfeydd teulu.
Bydd y drefn newydd yn dod i rym yn Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion o 9 Mawrth gyda'r "nod o ddarparu gofal mwy cyson a chadarn" gyda'r nosau ar ddyddiau'r wythnos waith i gleifion sydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb.
Mae'n golygu y bydd safle Tu Allan i Oriau Llanelli yn cau a chleifion yn cael eu cyfeirio yn hytrach at Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip y dref, a bydd yn rhaid i gleifion meddygfa yn Llandysul deithio i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
Y gobaith, medd y bwrdd, yw "y byddwn yn medru llenwi mwy o'n sifftiau clinigol ar benwythnosau, pan mae mwy o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, a darparu gwasanaeth mwy cyson a chadarn ar gyfer ein cleifion".
Maen nhw hefyd yn gobeithio darparu "mwy o wytnwch yn y gwasanaeth" wedi cyfnod heriol, ac yn apelio am adborth wrth ddatblygu'r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.
Anawsterau llenwi rota
Mae'r newidiadau'n berthnasol i gleifion sydd angen gweld meddyg rhwng 23:00 a 08:00 ar ôl deialu 111.
"Am beth amser, mae ein gwasanaeth Tu Allan i Oriau wedi dod yn fwyfwy bregus oherwydd anawsterau wrth lenwi rotas Meddygon Teulu, â'r sefyllfa'n arbennig o heriol ar benwythnosau," meddai'r bwrdd.
"Mae hyn wedi arwain at orfod symud y clinigwyr hynny sydd ar gael o gwmpas er mwyn ceisio rheoli'r diffygion yn ôl yr angen, neu - yn gynyddol felly - cau canolfannau am gyfnodau hir o amser os na ellir llenwi'r rotas, a hynny er budd diogelwch cleifion."
Dywedodd Dr Richard Archer, Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau ac arweinydd clinigol y gwasanaeth bod cau canolfannau dros dro ac ailgyfeirio cleifion i adrannau brys wedi "rhoi pwysau pellach ar ein gwasanaethau brys, gan nad dyma'r lle mwyaf priodol i'r cleifion hynny bob amser.
"Trwy gyflawni'r newidiadau dros dro hyn," meddai, "ein gobaith yw gallu darparu mwy o ymgynghoriadau dros y ffôn, mwy o apwyntiadau wyneb yn wyneb, a mwy o bresenoldeb Meddyg Teulu yn Llanelli a Chaerfyrddin dros nos."
Mae rheolwyr y bwrdd yn "ymddiheuro am unrhyw rwystredigaethau neu anghyfleustra" i gleifion sy'n gorfod teithio ymhellach er mwyn cael apwyntiad wyneb yn wyneb ar ôl hanner nos".
Gan fod "llawer llai o weithgaredd y Tu Allan i Oriau yn Llandysul yn ystod y cyfnod dros nos nag mewn mannau eraill" maen nhw'n rhagweld "mai bychan iawn y bydd effaith y newidiadau hyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018