'Angen mwy o arian i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad yn sylweddol yn y gwaith o amddiffyn cymunedau rhag llifogydd.
Roedd Adam Price AS yn siarad ar ôl i'r tywydd achosi difrod ar draws de Cymru dros y penwythnos.
Mae arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd wedi galw am weithredu brys.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole ei fod yn "dorcalonnus" gweld pobl yn wynebu gwaith glanhau unwaith eto.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi mwy na £390m rhwng 2016 a 2021 i helpu i ddelio â'r risg o lifogydd.
Mewn cyfweliad i Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd Mr Price nad oedd yna bolisi cenedlaethol yn bodoli ar hyn o bryd oedd yn cydnabod atal llifogydd fel "nod strategol cenedlaethol".
Yn ôl Mr Price, mae "angen hynny ar frys oherwydd difrifoldeb y sefyllfa".
"Mae angen adolygiad o'r lefel o fuddsoddiad. Dyw e'n sicr ddim yn cyrraedd y lefel sydd yn angenrheidiol ar gyfer atal llifogydd.
"Mae hynny yn cael ei gydnabod os ydych chi yn edrych ar asesiad y Comisiwn Is-adeiledd Cenedlaethol.
"Byddai rhaid codi lefel y buddsoddiad blynyddol yng Nghymru o leiaf 60% o ran amddiffynfeydd ac atal llifogydd i gyrraedd y lefel maen nhw'n awgrymu," ychwanegodd.
Wrth siarad ddydd Llun, dywedodd Mr Dole na all y sefyllfa barhau fel ag y mae hi.
"Unwaith eto mae'r glaw a llifogydd wedi creu anawsterau mawr i gartrefi, busnesau a chymunedau ac mae rhai yn wynebu'r broses o lanhau a dechrau unwaith eto," meddai.
"Y penwythnos hwn, cyrhaeddodd afonydd lefelau a oedd yn beryglus o agos at y lefelau a gyrhaeddwyd yn ystod Storm Callum."
Ychwanegodd: "Mae'n amlwg bod llifogydd yn digwydd yn amlach ac yn ddwysach.
"Mae'r effaith yr un mor ddinistriol bob tro - rydym yn gwybod o brofiad faint o amser mae'r gwaith adfer yn ei gymryd ac mae'n dorcalonnus gweld hynny.
"Ni all barhau fel hyn - mae rhywbeth a oedd yn digwydd unwaith bob 100 mlynedd bellach wedi digwydd pedair gwaith mewn blwyddyn a hanner."
Mae Mr Dole yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud llifogydd yn flaenoriaeth genedlaethol strategol.
"Mae arnom angen buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd - rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn flaenoriaeth genedlaethol strategol," meddai.
"Ni allwn barhau â'r distryw hwn sy'n digwydd dro ar ôl tro. Mae preswylwyr yn gorfod mynd ati i lanhau'r llanast unwaith eto."
Hawliodd Mr Dole fod Cyfoeth Naturiol Cymru - sy'n gyfrifol am amddiffyn yn erbyn llifogydd yng Nghymru - "o dan bwysau".
'Dim datrysiad hawdd'
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin yn "unigryw" ac nid oes datrysiad hawdd i'r sefyllfa yno.
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithredoedd De Orllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r raddfa a'r her o newid hinsawdd yn sylweddol a'n cynyddu, ac mae'n rhaid i ni fod yn realistig wrth feddwl am faint o lifogydd sy'n gallu cael eu hatal.
"Rydyn ni'n gweld llifogydd a thywydd mwy eithafol, sy'n profi ein hisadeiledd amddiffyn rhag llifogydd ac mae'n golygu bod angen buddsoddiad parhaus a hirdymor ym mhob ardal o reoli risg llifogydd, ym mhob rhan o Gymru."
Wrth sôn yn benodol am sefyllfa Caerfyrddin, dywedodd: "Mae Caerfyrddin yn dod â'i heriau unigryw gyda rhan isaf y dref wedi'i adeiladu ar wastadedd llifogydd.
"Tra bod yr ardal o gwmpas Pensarn wedi'i ddiogelu gan amddiffynfeydd llifogydd sy'n barod yn bodoli, mae angen cynllunio i adeiladu neu ymestyn amddiffynfeydd llifogydd yn ardaloedd isel y dref yn ofalus i sicrhau nad yw dŵr sy'n cael ei adleoli yn achosi difrod mewn ardaloedd eraill.
"Rydyn ni'n ymchwilio mewn i opsiynau eraill posib a'n adolygu cynigion ar gyfer ardal y Cei, mae hanes yn dweud nad oes unrhyw ddatrysiadau hawdd."
'Cydymdeimlad ddim yn ddigon'
Yn ôl Keith Evans, y cynghorydd sir dros dref Llandysul, mae "angen arian sylweddol, sylweddol" i ymdopi gyda'r her o atal llifogydd yn y dyfodol.
Mae'n feirniadol o'r diffyg gweithredu yn dilyn effeithiau Storm Callum bron i dair blynedd yn ôl.
Dywedodd: "Mae yna adroddiad wedi bod mas, fel dwi'n cael ar ddeall, ond dyw e ddim yn cael ei roi yn gyhoeddus yn blaen i bobl i weld - dyma beth wnaethon ni ddysgu yn dilyn Storm Callum.
"Y pethau yna sydd ar goll, dyna sydd yn rhwystredig iawn i fi. Pob un yn siarad yn uchel ac yn cydymdeimlo, ond mae'n golygu dim i bobl lleol sydd yn wynebu llanast dro ar ôl tro."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn gwybod bod llifogydd yn ofnadwy i gymunedau. Rhwng 2016 a 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £390m er mwyn ceisio rheoli perygl llifogydd.
"Yn dilyn llifogydd 2020 fe wnaethon ni ddarparu £4.6m o arian i gynghorau a ddioddefodd ar gyfer gwaith trwsio ac ry'n wedi darparu 100% o grant ar gyfer y gwaith o baratoi ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd.
"Ym mis Ebrill 2020 fe gyhoeddon ni £55m pellach ar gyfer y gwaith o atal llifogydd ac ers hynny ry'n wedi clustnodi £6.5m i gefnogi awdurdodau lleol a phobl sydd wedi dioddef effeithiau llifogydd yn ystod cyfyngiadau Covid-19.
"Mae hyn yn ychwanegol at y £21.5m ry'n yn ei ddarparu i helpu cynghorau ar draws Cymru i drwsio ffyrdd, pontydd a llwybrau pren.
"Byddwn yn parhau i reoli ac ymateb i berygl llifogydd ar draws Cymru. Cafodd ein Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, dolen allanol ei lansio hydref y llynedd ac mae'n amlinellu sut rydym yn bwriadu cydweithio gyda'n partneriaid i reoli perygl llifogydd yn y tymor hir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018