Busnesau anifeiliaid yn 'cael eu trin yn annheg'
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau sy'n cynnig cantref dros dro i anifeiliaid anwes yn dweud nad ydynt yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o grantiau Covid, a bod y sefyllfa yn annheg.
Dyw busnesau o'r fath, fel rhai sy'n gofalu am anifeiliaid tra bod eu perchnogion yn mynd ar wyliau, ddim yn gymwys am y grantiau ar gyfer y sector twristiaeth.
Nawr mae bron i 70 o fusnesau wedi sefydlu grŵp ymgyrchu yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau.
Dywed Llywodraeth Cymru y gallai'r cwmnïau hyn wneud cais am grantiau gan y cyngor sir lleol.
Dywed Rhian Cowen, sy'n rhedeg busnes sy'n gofalu am gŵn yn Sir Benfro, fod ei busnes wedi dod i stop fis Chwefror diwethaf, gyda phob un o'u cwsmeriaid yn canslo eu harchebion am le.
"Ni oedd y math o fusnes gafodd wybod ein bod i fod i aros ar agor," meddai.
"Mewn rhai ardaloedd o bosib byddai hynny yn iawn. Ardaloedd lle mae yna ysbytai a'u bod yn cynnig cefnogaeth i weithwyr allweddol."
Ond ddigwyddodd hynny ddim yn ei hachos hi.
Cost trwydded busnes
Dywedodd Ms Cowen nad oedd hi'n gymwys tan 23 Rhagfyr ar gyfer yr "un ddime goch" o arian cefnogaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd fel busnes sydd wedi ei leoli yn ei chartref, dyw hi ddim yn talu treth busnes.
Fe wnaeth hi dderbyn cymhorthdal o £1,500 ar 23 Rhagfyr, ac un arall o £2,000 yn Ionawr.
Ond dywedodd bod hyn prin yn ddigon i dalu'r gost o aros ar agor.
Roedd ei thrwydded busnes gan y cyngor yn "costio ychydig llai na £500, ac mae ffi'r drwydded ar gyfer 2021 ychydig dros £500".
"De ni ddim yn cael ein hystyried yn fusnes yn y maes twristiaeth, ond mi rydan ni. Hebom ni fyddai yna ddim cefnogaeth i bobl allu mynd ar eu gwyliau," meddai.
Mae Ryan Lee, sy'n rhedeg cwmni Berry Hill Kennels yn Hwlffordd wedi sefydlu grŵp o'r enw Pet Boarders Alliance, sy'n cynnwys 68 o fusnesau ac yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth.
Dywedodd Mr Lee iddo allu hawlio grant o £10,000 ar ddechrau'r pandemig er mwyn lliniaru cost trethi busnes, ac yna £3,000 yn ychwanegol yn ystod y cyfnod clo byr.
Ar ôl hynny, meddai, mae grantiau wedi cael eu gwrthod.
Dywedodd Mr Lee: "Mae fy nghyngor lleol, Sir Benfro, wedi gwrthod yn wreiddiol gan ddweud nad oedd gorfodaeth arnom i gau."
'Gostyngiad o 40% mewn incwm'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae busnesau sy'n gofalu am anifeiliaid anwes, ond sydd wedi eu lleoli yng nghartref y perchennog, yn gallu gwneud cais am gymhorthdal dewisol gan yr awdurdod lleol os mai dyma yw eu prif incwm.
"Gallant hefyd ofyn am gymorth gan gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer yr hunan-gyflogedig.
"Dyw busnesau o'r fath ddim yn gymwys yn awtomatig, ond pe baent yn cwrdd â rhai gofynion gan gynnwys gallu dangos gostyngiad o 40% mewn incwm... yna gallant wneud cais am gymorth.
"Awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniad i roi grant yn ôl y dystiolaeth sy'n cael ei gynnig."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro eu bod yn ymwybodol fod rhai awdurdodau lleol yn gweithredu yn wahanol o ran pwy oedd yn gymwys ac felly eu bod wedi gofyn am fwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru.
"Maen nhw wedi ein cynghori mae un prawf allweddol oedd lleihad o 40% mewn trosiant incwm... ac rydym yn adolygu ceisiadau wedi i hyn ddod i'r amlwg," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020