Alun Davies yn ailymuno â grŵp Llafur wedi ffrae yfed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Davies yn cynrychioli Llafur yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai

Mae Alun Davies wedi ailymuno â grŵp Llafur yn Senedd Cymru ar ôl iddo yfed ar safle'r Senedd yn ystod gwaharddiad ar alcohol.

Cafodd Mr Davies AS ei wahardd gan ei blaid am bum wythnos yn dilyn y digwyddiad.

Er iddo ymddiheuro, fe wadodd iddo dorri rheolau Covid-19 ar ddechrau mis Rhagfyr y llynedd.

Bydd yr aelod dros Flaenau Gwent yn parhau fel ymgeisydd Llafur ar gyfer y sedd yn etholiad Senedd mis Mai.

Fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru dros y digwyddiad, ac fe wnaeth AS Torïaidd arall, Darren Millar hefyd roi'r gorau i'w swydd fel prif chwip.

Y gred ydy mai'r AS Ceidwadol dros Fynwy, Nick Ramsay ydy'r pedwerydd Aelod o'r Senedd a oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Beth ddigwyddodd?

Daeth ymchwiliad Comisiwn y Senedd i'r casgliad fod pum unigolyn - pedwar AS a phennaeth staff y grŵp Ceidwadol ar y pryd - wedi yfed alcohol yn y Senedd ar 8 Rhagfyr.

Bedwar diwrnod ynghynt, gosodwyd gwaharddiad ar weini alcohol mewn tafarndai ac adeiladau trwyddedig ledled Cymru.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad y gallai'r digwyddiad fod yn "doriad posib" o reoliadau Covid-19.

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, fod y mater wedi cael ei gyfeirio at Gyngor Caerdydd a chorff gwarchod safonau'r Senedd ei hun.

Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar and Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar Aelod o'r Senedd a oedd dan y lach - (ch-dd) Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd Safonau: "Mae'r gyfraith yn gwahardd y comisiynydd rhag cyfaddef neu wadu bod cwyn wedi'i derbyn a rhag gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas ag unrhyw gŵyn a gyflwynwyd."

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod eu hymchwiliad yn parhau.

Mewn datganiad a ryddhawyd adeg ei waharddiad, dywedodd Alun Davies: "Mae'n ddrwg iawn gennyf os yw fy ngweithredoedd wedi rhoi'r argraff nad wyf mewn unrhyw ffordd wedi ymrwymo i gynnal y rheoliadau yr wyf wedi'u cefnogi'n gyson trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf."

Dywedodd mai pwrpas y cyfarfod "oedd ceisio perswadio Ceidwadwyr Cymru i gefnogi fy nghynnig am Fil Calonnau Cymru, a gymeradwyodd y Senedd ar 21 Hydref, a gwneud ymrwymiad i ddeddfu'r ddeddfwriaeth achub bywyd hon yn eu maniffesto ar gyfer etholiad Mai".