Wyth mis cyn i Lywodraeth Cymru ateb e-bost AS
- Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi ymddiheuro am yr oedi cyn ateb e-byst Rhun ap Iorwerth
Mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "rwystro" craffu democrataidd ar ôl cymryd bron i wyth mis i ymateb i e-byst gan Aelod o'r Senedd.
Ysgrifennodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru at weinidogion fis Mehefin diwethaf.
Derbyniodd ymateb yn gynharach y mis hwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn derbyn 350% yn fwy o ohebiaeth ers dechrau'r pandemig a'u bod wedi blaenoriaethu "gwarchod bywydau a bywoliaethau".
Ysgrifennodd Mr ap Iorwerth ddau e-bost at weinidogion ar 18 Mehefin 2020 yn codi pryderon gan etholwyr ynghylch y broses o brofi am Covid-19.
Yn ei ymateb ar 10 Chwefror 2021, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Ymddiheuraf am beidio ag ymateb ynghynt.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn maint digynsail o ohebiaeth ynghylch y pandemig ac rydym yn gweithio i ymateb i bob ymholiad cyn gynted â phosibl."
Ysgrifennodd Mr ap Iorwerth at y Llywodraeth ar 1 Medi 2020 hefyd i godi pryderon ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb mewn archfarchnadoedd.
Ar yr achlysur hwn cafwyd ymateb ar 9 Chwefror 2021.
'Poenus o araf'
"Pan ddywedir bod diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth dychmygwch faint all newid mewn wyth mis, ac eto dyma'r hyd y gall ei gymryd i gael ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Lywodraeth Lafur Cymru," meddai Mr ap Iorwerth.
"Mae gwefan ein Senedd yn ymfalchïo bod 'craffu'n effeithiol ar waith llywodraeth wrth wraidd unrhyw broses ddemocrataidd' ond byddwn yn dadlau bod hyn yn cael ei rwystro'n ddifrifol gan yr amseroedd ymateb poenus o araf i gwestiynau ysgrifenedig."
Nid dyma'r tro cyntaf i weinidogion gael eu beirniadu am ddarparu ymatebion araf yn ystod y pandemig.
Fis Ebrill diwethaf cyhuddodd y Ceidwadwyr Cymreig y Llywodraeth o "wrthwynebiad i graffu nad sy'n iach".
Ysgrifennodd arweinydd y grŵp yn Senedd Cymru ar y pryd, Paul Davies at y Prif Weinidog yn dweud: "Rwy'n gwerthfawrogi ein bod yng nghanol argyfwng cenedlaethol gyda Covid-19 ac y dylai adnoddau Llywodraeth Cymru ganolbwyntio, yn hollol gywir, ar frwydro yn erbyn y feirws a sicrhau diogelwch pobl Cymru.
"Fodd bynnag, fel aelodau o gorff deddfwriaethol Cymru mae'n ddyletswydd arnom i graffu ar eich Llywodraeth..."
Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Ein nod yw ymateb o fewn 17 diwrnod gwaith, dolen allanol, ond oherwydd bod mwy o ohebiaeth yn dod i law ar hyn o bryd, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd mwy o amser."
Ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod yr ymatebion a ddarparwyd cyn y dyddiad cau "yn aml yn atebion dros dro yn unig".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers dechrau'r pandemig Covid, rydym wedi gweld cynnydd o 350% yn lefel yr ohebiaeth rydym yn ei derbyn gan Aelodau o'r Senedd ac aelodau'r cyhoedd.
"Rydym yn ymateb i ohebiaeth, cwestiynau a cheisiadau eraill am wybodaeth gynted â phosib.
"Fodd bynnag, mae'r staff sy'n rheoli ein hymateb i'r pandemig hefyd yn gyfrifol am ymateb i ohebiaeth a busnes arall y llywodraeth. Ein blaenoriaeth gyntaf oedd gosod cyfres ddigynsail o fesurau i achub bywydau a bywoliaethau.
"Er mwyn galluogi Aelodau o'r Senedd i graffu gwaith Llywodraeth Cymru, ac i helpu'r cyhoedd ddeall y mesurau rydym wedi eu gosod, rydym yn fwriadol wedi sicrhau bod casgliad cynhwysfawr o wybodaeth ac arweiniad ynghylch sut rydym yn mynd i'r afael â coronafeirws yn gyfredol ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
"Mae hynny'n cynnwys cwestiynau ac atebion, yr ystadegau diweddaraf a'r cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021