Lle i enaid gael llonydd: Dylan Jones

  • Cyhoeddwyd
Dylan Jones yn mwynhau te yn y grugFfynhonnell y llun, Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Jones yn mwynhau te yn y grug

Y darlledwr a chyflwynydd Post Prynhawn ac Ar y Marc ar BBC Radio Cymru, Dylan Jones sy'n trafod ei le i gael llonydd yn Nyffryn Clwyd:

Mae'r cyfnod clo wedi golygu bod mwy o amser i fynd â'r enaid am lonydd, ond llai o lefydd i fynd iddyn nhw.

Rydym yn byw yn Ninbych ers chwe blynedd a wastad wedi mwynhau mynd am dro yn Nyffryn Clwyd. Ar Ebrill y cyntaf y llynedd (dyddiad addas efallai) daeth Mot y Golden Retriever i'n byd, ac wrth gwrs mae o wedi cynyddu'r teithiau cerdded yn ddyddiol.

Ffynhonnell y llun, Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ianto ac Alys yn mynd â Mot am dro

Amser teulu ar fore Sul

Mae'r hen Mot angen rhedeg yn rhydd weithiau heb gaethiwed y tennyn, ac mae o'n cael gwneud hynny ar gae mewn tir comin tawel rhwng y ffordd osgoi a stad o dai yn y dre, sydd lai na milltir o'n tŷ ni.

Mae hi'n hyfryd cael mynd yno fel teulu ar fore Sul gyda bryniau Clwyd yn y pellter a Mot yn rhedeg nôl a blaen, yn casglu peli neu gangen, ac yntau yn poeni dim am yr un stori newyddion na chanlyniad pêl-droed… er iddo gael ei enwi ar ôl anthem Leeds United - "Marching on Together" #mot !

Mae ei flaenoriaethau o'n golygu ein bod ninnau fel teulu yn mynd yn nes at natur a hynny yn ei dro yn llonyddu'r enaid.

Ffynhonnell y llun, Dylan Jones

Pan oedden ni'n cael teithio rhywfaint i fynd am dro yn ystod y pandemig byddai Elen fy ngwraig a finna yn anelu'r car am Langwyfan yn Nyffryn Clwyd a cherdded wedyn i fyny Moel Arthur lle mae olion hen gaer o'r Oes Haearn a'r Oes Efydd.

Te yn y grug

Tydi Mot ddim wedi concro'r pinacl hwnnw eto gan ei fod yn rhy ifanc pan oedden ni'n cael teithio i gerdded.

Ond pan fydd y cyfyngiadau wedi eu codi, yna mi fydd yr hen bartner yn gallu mwynhau golygfeydd godidog 360 gradd Moel Arthur. Mynyddoedd Eryri i un cyfeiriad, mynyddoedd llai Cumbria i'r cyfeiriad arall.

A chael te yn y grug hefo ni!

Ffynhonnell y llun, Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elen a Dylan a golygfeydd godidog Dyffryn Clwyd

Siarad a holi pobl ydi fy mywoliaeth a faswn i ddim yn newid hynny am y byd, ond does dim geiriau i ddisgrifio'r teimlad o lonyddwch yng nghanol cae neu ar ben Moel yn Nyffryn Clwyd a faswn i ddim yn newid hynny am y byd chwaith.

Ffynhonnell y llun, Dylan Jones

Hefyd o ddiddordeb: