Blynyddoedd 7, 8 a 9 i gwrdd ag athrawon cyn y Pasg
- Cyhoeddwyd
Bydd plant blynyddoedd 7, 8 a 9 - sef blynyddoedd ieuengaf ysgolion uwchradd - yn cael dychwelyd i'r ysgol i gwrdd ag athrawon cyn gwyliau'r Pasg, meddai'r Gweinidog Addysg.
Dywedodd Kirsty Williams mai'r nod yw "rhoi cyfle i ddysgwyr gael sgwrs â'r athrawon, er mwyn rhoi sylw i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer eu lles, a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol yn llawn ar ôl gwyliau'r Pasg".
Ond ychwanegodd: "Hoffwn i ei gwneud yn hollol glir nad yw hyn golygu y bydd dysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn cyn y Pasg."
Eisoes mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud y bydd pob disgybl cynradd yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth erbyn canol Mawrth.
Yr adeg honno hefyd y bydd disgyblion mewn blynyddoedd arholiad yn cael dychwelyd, myfyrwyr blynyddoedd 10 a 12, a'r rhai sy'n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau.
'Mynd nôl yn gwneud gwahaniaeth'
Mae disgyblion ysgolion uwchradd a rhai hynaf ysgolion cynradd wedi bod yn cael eu dysgu adref ar-lein ers cyn y Nadolig.
Mae disgyblion cynradd iau wedi dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth ers dydd Llun, 22 Chwefror.
Mae'r cynlluniau yn ddibynnol ar adolygiad tair wythnos Llywodraeth Cymru - mae'r adolygiad nesaf i'w gynnal ar ddydd Gwener 12 Mawrth.
Dywedodd y Gweinidog Addysg: "Mae agor lleoliadau addysg i bob disgybl yn brif flaenoriaeth i ni yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch i allu rhannu rhywfaint o newyddion cadarnhaol.
"Dyma'r ail wythnos i'n disgyblion ieuengaf fod nôl yn yr ysgol ac rwy' wedi gweld fy hunan y gwahaniaeth y mae hyn eisoes yn ei wneud - diolch unwaith eto i bawb sy'n gwneud hyn yn bosibl."
Yn ogystal â'r disgyblion fydd eisoes yn dychwelyd ganol Mawrth, dywedodd Ms Williams: "Heddiw, galla' i gadarnhau ein bwriad i fynd ymhellach yn gynt, gan roi cyfle i ysgolion groesawu yn ôl eu dysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 cyn gwyliau'r Pasg.
"Byddai hynny'n rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd â'u hathrawon i drafod eu lles a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol yn llawn ar ôl y Pasg.
"Hoffwn i ei gwneud yn hollol glir nad yw hyn golygu y bydd dysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn cyn y Pasg."
Ychwanegodd mai cyn y Pasg, y bwriad yw canolbwyntio ar ddysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau, yn enwedig y rheiny ym mlynyddoedd 11 a 13 a'r rhai sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol ymarferol.
"Byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau llawn i ysgolion ddydd Mercher, a bydd y rheiny'n helpu mewn perthynas â'r holl gynllunio angenrheidiol," meddai Ms Williams.
"Byddwn ni hefyd yn trefnu mwy o sesiynau rhithwir ar gyfer penaethiaid, gan eich bod wedi rhoi gwybod eu bod yn ddefnyddiol. A byddaf yn rhannu'r manylion ar y cyfryngau cymdeithasol."
'Diffyg eglurder'
Ond dywedodd llywydd undeb ASCL Cymru, a phennaeth Ysgol Olchfa yn Abertawe, Hugh Davies bod "diffyg eglurder" yn y cyhoeddiad.
Ychwanegodd nad yw hi'n eglur sut y bydd modd i athrawon gwrdd wyneb yn wyneb â disgyblion tra hefyd yn delio â chyfrifoldebau dysgu ar-lein.
"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw bennaeth neu athro ledled y wlad sydd ddim eisiau disgyblion yn ôl yn yr ysgol unwaith y mae hi'n ddiogel i wneud hynny," meddai.
"Ond mae angen rheoli disgwyliadau oherwydd ni all athrawon wneud dau beth ar unwaith.
"Dyw hi ddim yn glir sut y bydd y syniad o gael blynyddoedd 7, 8 a 9 i ddychwelyd yn gweithio, a pha bwrpas sydd i wneud hynny ar hyn o bryd."
'Dydyn ni ddim eisiau gorfod cau eto'
Dywedodd undeb NAHT Cymru ei fod yn synnu bod y penderfyniad wedi'i wneud "cyn bod data cadarn yn cefnogi hynny".
"Dydy ysgolion cynradd ddim wedi dychwelyd yn lawn eto, a dydyn ni ddim eisiau gweld ysgolion yn gorfod cau eto am ein bod wedi cael gormod o ddisgyblion yn ôl yn rhy gynnar," meddai'r cyfarwyddwr Laura Doel.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y cyhoeddiad yn "sioc i'w groesawu", meddai Trystan Edwards, pennaeth Ysgol Garth Olwg, Pontypridd.
Dywedodd y byddai'n rhoi "hyblygrwydd" i'r ysgol, ond y byddai angen "rheoli disgwyliadau".
Ychwanegodd y byddai sicrhau cydweithrediad rhieni yn "allweddol": "Mae angen disgyblaeth gref yn y gymuned nawr."
"Dydy hwn ddim yn rhoi'r golau gwyrdd i ddisgyblion fynd i dai ei gilydd, cael sleepovers, partïon plant."
'Tro pedol'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Suzy Davies AS eu bod yn croesawu'r hyn maen nhw'n i alw yn "dro pedol" gan Lywodraeth Cymru.
"Blaenoriaeth bennaf y Ceidwadwyr Cymreig ydy cael disgyblion yn ôl i'r ystafell ddosbarth," meddai.
"Rydyn ni wedi clywed y llywodraeth yn gwrthddweud ei hun bod dychwelyd i'r ysgol yn anniogel ac nad yw hynny'n dilyn y wyddoniaeth, ond ar yr un pryd maen nhw'n bwriadu llacio'r cyfyngiadau mewn meysydd eraill.
"Mae hi'n siom ei bod wedi cymryd cyhyd i roi'r wybodaeth yma i deuluoedd ond rwy'n falch... y bydd mwy o blant ledled Cymru yn ôl yn yr ysgol cyn y Pasg."
Ychwanegodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian ei bod yn cefnogi'r syniad "os yw'r cyngor gwyddonol yn awgrymu ei bod yn ddiogel".
"Er hynny, mae hi'n siomedig nad ydy staff ysgolion wedi cael eu blaenoriaethu am frechlyn o fewn eu grŵp oed nhw i'w gwneud yn fwy diogel pan fydd mwy o ddisgyblion yn dychwelyd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020