Post-mortem heb gadarnhau achos marwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
Mohamud Mohammed Hassan

Mae archwiliad post-mortem wedi methu â chadarnhau achos marwolaeth dyn 24 oed yng Nghaerdydd.

Clywodd cwest bod Mohamud Mohammed Hassan, o Dre-biwt, wedi marw mewn eiddo yn Y Rhath ar 9 Ionawr.

Y diwrnod cynt cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch a'i gadw yn y ddalfa dros nos cyn cael ei ryddhau heb gyhuddiad.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i'r cysylltiad rhyngddo a Heddlu De Cymru.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Iau.

Ymchwiliad

Clywodd y gwrandawiad bod Dr Deryk James, y patholegydd fforensig a wnaeth gynnal yr archwiliad post-mortem, heb allu awgrymu achos meddygol y farwolaeth.

Dywedodd Uwch Grwner Dros Dro Canol DE Cymru, Graeme Hughes: "Mae'r dasg yn syrthio arnaf innau i gynnal ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth Mr Hassan a dod â'r ymchwiliad hwnnw i ben drwy gwest."

Clywodd y cwest bod ymchwiliad yr IOPC yn debygol o gymryd chwe mis, ond bod "rhai trafferthion" o ran cael lluniau.

Dywedodd Mr Hughes y bydd ei swyddogion nawr yn parhau i gysylltu gyda'r IOPC cyn eu hadroddiad cychwynnol.

Fe wnaeth hefyd "gydymdeimlo'n ddwys" â pherthnasau a ffrindiau Mr Hassan.

Mae disgwyl i adolygiad cyn cwest gael ei gynnal ar 3 Rhagfyr.

Gofynnodd cynrychiolydd teulu Mr Hassan, Michael Mansfield QC, am wrandawiad cyn hynny i amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf.

Gorchmynnodd y crwner i'r IOPC ddarparu diweddariad ynghylch eu hymchwiliad mewn ysgrifen iddo erbyn 13 Awst.