Ymestyn cytundeb Mick McCarthy fel rheolwr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mick McCarthy a'i ddirprwy Terry ConnorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mick McCarthy (dde) a'i ddirprwy Terry Connor, wedi trawsnewid canlyniadau'r clwb ers mis Ionawr

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Mick McCarthy, wedi arwyddo estyniad dwy flynedd i'w gytundeb gyda'r clwb.

Cafodd McCarthy, 62, ei benodi ym mis Ionawr ar gytundeb tan ddiwedd y tymor, wedi i Neil Harris gael ei ddiswyddo fel rheolwr.

Ar y pryd roedd yr Adar Gleision yn 15fed yn y Bencampwriaeth - 13 pwynt y tu allan i'r safleoedd ail gyfle, ac yn nes at waelod y tabl.

Ond mae cyn-reolwr Gweriniaeth Iwerddon, gyda chymorth ei ddirprwy, Terry Connor, wedi ysbrydoli newid mawr ers camu i'r swydd.

Yn eu 10 gêm ddiwethaf mae'r clwb wedi ennill saith a chael tair gêm gyfartal, ac erbyn hyn maent yn wythfed yn y tabl, a dim ond dau bwynt o'r safleoedd ail gyfle.

Dywedodd perchennog y clwb, Vincent Tan ei fod yn hyderus mai Mick McCarthy oedd y person iawn ar gyfer y swydd ac i fynd a Chaerdydd ymlaen.