Datgelu graddau dros dro Safon Uwch a TGAU deufis yn gynnar
- Cyhoeddwyd
Bydd disgyblion Safon Uwch a TGAU yng Nghymru yn cael gwybod eu graddau dros dro gan athrawon ym mis Mehefin, cyn i'r canlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi fis Awst.
Yn ôl y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, byddai'n golygu bod disgyblion yn gallu apelio i'r ysgol neu'r coleg cyn i'r graddau terfynol gael eu cadarnhau.
Eleni bydd graddau'r haf yn cael eu penderfynu gan athrawon ar sail gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y flwyddyn, ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn sgil y pandemig.
Bydd diwrnodau canlyniadau yn gynt na'r arfer hefyd gyda Safon Uwch ac AS yn cael eu cyhoeddi ar 10 Awst a TGAU ar 12 Awst.
Yn eu canllawiau diweddaraf ar sut y dylai ysgolion a cholegau asesu Safon Uwch, AS a TGAU, mae Cymwysterau Cymru yn nodi tri chyfnod ar gyfer y broses apelio gan ddechrau gyda rhyddhau'r graddau dros dro fis Mehefin.
Er na fydd bwrdd arholi CBAC yn newid graddau'r ysgolion neu golegau ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno, byddai'r bwrdd yn gallu codi pryderon am unrhyw raddio "annodweddiadol".
Y cyfle nesaf i apelio byddai drwy'r bwrdd arholi ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, petai'r disgyblion yn teimlo bod y graddau sydd wedi eu nodi gan eu hysgol neu goleg yn afresymol neu os oes camgymeriad gweithdrefnol wedi'i wneud.
Cam olaf yr apêl yw i'r corff rheoleiddio, Cymwysterau Cymru.
Mae'r broses yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r apeliadau yno'n digwydd ar ôl diwrnod y canlyniadau fis Awst.
Dywedodd Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru, eu bod nhw wedi cydweithio gyda'r bwrdd arholi CBAC a'r grŵp o arweinwyr ysgolion a cholegau - y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni - i lunio proses apelio effeithiol.
Ychwanegodd eu bod wedi ystyried argymhellion adolygiad annibynnol oedd yn feirniadol iawn o'r broses arholi haf diwethaf.
"Yn unol â'r holl benderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer yr haf yma, does dim atebion hawdd," meddai Mr Blaker.
"Rydyn wedi ymrwymo i roi anghenion y dysgwr wrth wraidd ein gwaith."
Israddio canlyniadau
Mae'r canllawiau hefyd yn edrych ar drefniadau ar gyfer dysgwyr preifat, sydd ddim wedi'u cofrestru mewn ysgol neu goleg penodol.
Mae'r rhain yn cynnwys plant sy'n cael eu haddysgu gartref neu rhai myfyrwyr sy'n ailsefyll.
Bydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu nodi fel canolfannau lle bydd rhai dysgwyr preifat yn gallu gwneud asesiadau fydd yn cael eu graddio gan y bwrdd arholi.
Fis Tachwedd fe gyhoeddodd y gweinidog addysg, Kirsty Williams, fod arholiadau'r haf wedi'u canslo ac fe sefydlwyd system o asesiadau yn eu lle.
Ond fe gafodd y rhain eu dileu hefyd ar ôl i ysgolion a cholegau gau eu drysau fis Ionawr, gan arwain at y penderfyniad y byddai athrawon a darlithwyr yn pennu graddau eu myfyrwyr.
Yn y pen draw roedd graddau haf 2020 yn seiliedig ar raddau athrawon wedi cwynion bod israddio canlyniadau wedi digwydd o ganlyniad i'r broses safoni.
'Araf yn dysgu gwersi'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Siân Gwenllian AS: "Roedd Llywodraeth Cymru yn araf yn dysgu gwersi o lanast arholiadau'r haf diwethaf, a rhaid i'r pwyslais nawr ganolbwyntio'n gadarn ar les ein holl ddisgyblion.
"Rhaid i'n pobl ifanc fod yn hyderus bod eu hanghenion yn ganolog i'r broses newydd ac y bydd system apelio gadarn - ni ddylent wynebu'r un straen a bod cyfleoedd yn cael eu gwrthod iddyn nhw fel wnaeth sawl myfyriwr TGAU a Safon Uwch y llynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021