Beirniadu'r cyrff arholi wedi dryswch cymwysterau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ArholiadFfynhonnell y llun, PA

Roedd "methiant sylweddol" ar ran y cyrff arholi a dyfarnu yng Nghymru wrth iddyn nhw fethu â chydnabod na rhagweld y problemau a fyddai'n codi gyda graddau myfyrwyr yr haf diwethaf, yn ôl adroddiad.

Mae adolygiad annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi canfod y byddai Cymwysterau Cymru a CBAC wedi cael "cipolwg" ar niferoedd tebygol yr apeliadau a fyddai'n codi.

Fodd bynnag, roedd methiant i sefydlu "proses apelio deg ac ymarferol", yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod wedi dysgu llawer o wersi o 2020, tra dywedodd CBAC y byddai'n "edrych yn fanwl ar y canfyddiadau" i ddod o hyd i ble mae modd gwneud gwelliannau.

Sefydlwyd yr Adolygiad Annibynnol, dan gadeiryddiaeth cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Louise Casella ym mis Awst 2020. Y bwriad oedd dysgu gwersi o'r ffordd y cafodd canlyniadau academaidd yr haf hwnnw eu trin.

Ar y pryd, bu'n rhaid i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ymddiheuro, ar ôl i filoedd o raddau Safon Uwch gael eu hisraddio, oherwydd dull safoni ystadegol. Rhoddwyd amcangyfrifon athrawon yn y pen draw ar ôl ymateb chwyrn.

Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau yn yr haf

Gormod o hyder yn y model ystadegol

Yn ôl yr adroddiad, methodd y cyrff rheoleiddio a dyfarnu yng Nghymru â ystyried "llwybrau neu ddulliau amgen" i'r model safoni ystadegol, wnaeth yn y pen draw, arwain at israddio graddau.

Mae'r adolygiad yn dweud ei bod yn "syndod" nad oedd Cymwysterau Cymru yn archwilio mesurau diogelu ychwanegol, ar ôl cael rhybudd o'r blaen a chydnabod eu hunain bod problemau posibl gyda'r broses safoni ystadegol.

Mae'n dweud bod gormod o hyder wedi'i roi mewn modelau ystadegol i ragfynegi graddau dysgwyr.

Dywedodd Cymwysterau Cymru wrth yr adolygiad ei fod yn gwybod 'na allai unrhyw broses fod yn berffaith' ac y byddai angen i'r mecanwaith apelio ddelio a 'rhai pethau'.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn canfod 'gwrthddywediad' yn y dull gweithredu, gan ddweud, er bod disgwyl y byddai angen proses apelio pan na fyddai unigolion yn cael canlyniad teg, roedd hefyd yn amlwg na ellid gwneud apeliadau ar sail bod y broses ddim yn gweithredu yn ôl y disgwyl.

Daw'r adolygiad i'r casgliad bod methiant i sefydlu proses apelio ymarferol a fyddai'n sicrhau canlyniad teg i ddysgwyr.

Mae'n dweud na allai ddod o hyd i dystiolaeth naill ai bod CBAC neu Gymwysterau Cymru yn 'cydnabod, derbyn na rhagweld maint y materion' na'r risg o annhegwch i ddysgwyr a'i fod o'r farn bod hyn yn 'fethiant sylweddol'.

Gyda sefydliadau'n glynu'n rhy gaeth at gylchoedd gwaith, mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod diffyg 'trosolwg cydlynol' a oedd yn 'gwbl annigonol' ar gyfer yr heriau oedd yn wynebu'r sector ar y pryd.

Hefyd, roedd diffyg cyfathrebu ac ymgysylltu drwy strwythur llywodraethu'r system addysg, yn ôl yr adroddiad.

Roedd rhai colegau ac ysgolion yn teimlo nad oedd gan y rheoleiddiwr na'r corff arholi 'ddigon o werthfawrogiad' o ba mor anodd oedd graddio carfannau mawr o ddysgwyr, yn ôl yr adolygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr adolygiad o dan gadeiryddiaeth Louise Casella

'Methiant sylweddol'

Cyfaddefodd Cymwysterau Cymru a'r corff dyfarnu, CBAC i'r panel adolygu y gallai "mwy o ganllawiau fod wedi'u darparu" i ysgolion a cholegau.

Mae'r adroddiad yn dweud nad oedd y modelau safoni "yn cael eu deall yn dda y tu hwnt i'r gymuned arbenigol", wnaeth arwain at ddryswch ac anghysondeb.

Mae'n ychwanegu na wnaeth Cymwysterau Cymru na CBAC ddigon i leihau'r risg o ogwydd gyda Graddau a Asesir gan Ganolfannau, a allai effeithio'n anghymesur ar ddysgwyr BAME.

Ers hynny, mae'r dull a gymerwyd yr haf diwethaf wedi arwain at "fethiant sylweddol" mewn ymddiriedaeth rhwng y proffesiwn addysgu a'r rheoleiddiwr a'r corff arholi, yn ôl yr adroddiad.

Rhaid i degwch fod yn ganolog wrth gynllunio ar gyfer 2021, meddai.

Daw'r panel adolygu i'r casgliad bod y penderfyniad i ganslo arholiadau yn 2021 yn rhoi "cyfle unigryw a phwysig" i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a thrafod "llwybrau asesu amgen".

Mae'n dweud y dylid osgoi defnyddio algorithmau awtomatig i ragweld graddau unigol yn y dyfodol a bod datblygu proses apelio yn hanfodol.

'Gwersi wedi'u dysgu'

Wrth ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod wedi dysgu llawer o wersi o 2020.

Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru a Philip Blaker, y Prif Weithredwr, fod gan "adroddiad yr Adolygiad Annibynnol rai canfyddiadau ac argymhellion defnyddiol yr ydym eisoes yn mynd i'r afael â nhw. Byddem wedi croesawu mwy o ymgysylltu â'r panel adolygu fel bod yr holl faterion wedi eu hystyried yn llawn".

Yn ymateb i'r adolygiad, dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan ei fod yn "siomedig gyda rhai agweddau ar yr adroddiad" ond y bydden nhw'n "edrych yn fanwl ar y canfyddiadau i nodi meysydd lle mae angen i ni gymryd camau i wella'n barhaus fel sefydliad".

Mae'r gweinidog addysg wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud: "Rwy'n ddiolchgar am waith y Panel Adolygu, ochr yn ochr â gwaith y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, ac arbenigedd a hyblygrwydd Cymwysterau Cymru a CBAC, a wnaeth fy ngalluogi i wneud fy nghyhoeddiad ar 20 Ionawr ynghylch cymwysterau yn 2021.

"Roedd y cyhoeddiad hwn yn nodi fy mwriad y bydd cymwysterau dysgwyr sy'n dilyn TGAU, UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru yn cael eu dyfarnu drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan.

"Er bod gwaith pwysig i'w wneud o hyd i gwblhau rhai o fanylion y model Gradd a Bennir gan Ganolfan, fy ngobaith a'm disgwyliad yw y gall ein system addysg barhau i weithio gyda'i gilydd i gefnogi dilyniant ein dysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, drwy gyflwyno'r trefniadau asesu hyn a thrwy becyn cymorth ehangach."

Pynciau cysylltiedig