Y pry ar y wal: Dilyn Mark Drakeford drwy'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, S4C

"Mae bod yn arweinydd yn unig a dw i ddim yn gallu gweld sut mae Mark yn ymdopi. Mae'r pwysedd gwaith o ddydd i ddydd, saith diwrnod yr wythnos - ac nid jest y feirws ond popeth arall ar ben hynny."

Dyma eiriau'r cynhyrchydd teledu Steffan Morgan sy' wedi cael cipolwg unigryw ar fywyd dyddiol hectig Prif Weinidog Cymru tra'n ffilmio rhaglen ddogfen Prif Weinidog mewn Pandemig.

Mae Steffan a'i gamerâu wedi dilyn Mark Drakeford ers Medi 1 2020 drwy gyfnod cythryblus gan fod yn bry' ar y wal mewn cyfarfodydd pedair gwlad a thrafodaethau gyda'r cabinet am benderfyniadau sy'n newid bywydau pob un ohonom.

Ond sut mae'r dyn sy' â'n dyfodol yn ei ddwylo yn delio gyda'r fath straen? Yn ôl Steffan: "Dyw Mark byth yn edrych yn ôl. Mae wastad yn meddwl am fory a be' mae'n gallu neud fory.

"Os chi wedi cael diwrnod caled, ei gyngor fyddai peidiwch becso am beth chi wedi neud heddi, meddyliwch am fory a sut allwch chi neud fory yn well.

"Mae'n ffordd arbennig o iach o ddelio gyda'r pandemig achos mae pawb mynd i gael pethe'n rong - dw i'n credu fod lot o hynny'n dod o'i gefndir e fel gweithiwr cymdeithasol.

"Ti'n ffaelu gadael i bopeth fynd ar dy ben di; beth ti fod i neud yw meddwl fel ti'n gallu gwella pethe. Mae Mark yn dda iawn am hynny ac am fod yn philosophical am ddelio gyda pwysedd.

"Ond bydden i ddim ishe neud ei swydd e ar ôl gweld beth mae wedi mynd trwyddo."

Y diwrnod anoddaf

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb ond mae bod yn gyfrifol am arwain y genedl drwy gyfnod Covid-19 yn faich arbennig, gyda Steffan yn gweld y straen ynghylch rhai o'r penderfyniadau anodd yn amlwg: "Y diwrnod 'na pan o'n nhw'n trafod y Nadolig ac o'n nhw'n trafod sawl tŷ oedd yn cael cwrdd.

"Yng Nghymru ar y pryd roedd y niferoedd Covid yn scary. 'Oedd Mark 'di gofyn i Boris Johnson, Nicola Sturgeon a Gogledd Iwerddon os fydden nhw'n lleihau y nifer o dai oedd yn cael cwrdd o dri i ddau dros y Nadolig a 'nath neb helpu.

"Roedd y sefyllfa'n rili wael yng Nghymru ond roedd pethau'n well i nhw so doedden nhw ddim ishe cymryd Nadolig bobl yn y gwledydd eraill i ffwrdd.

"Roedd rhaid i Mark benderfynu os fydde fe'n mynd ei ffordd ei hun ac yn neud y penderfyniad i leihau'r nifer o dai - ac roedd hwnna'n benderfyniad mawr iddo neud.

"Chi'n gallu gweld e'n straffaglu [yn y rhaglen] - ydy e'n mynd i neud hwn yn gyfraith gwlad neu yn gyngor?

"Mae'r tensiwn 'na drwy'r ffilm ond mae'r cyfnod 'na dros y Nadolig pan mae'r niferoedd yn uchel ac mae e bron methu delio 'da pethau.

"Y cyfnod hynny yw pan chi'n gweld Mark dipyn bach ar goll ond yn dod trwyddi yn y diwedd."

Ffynhonnell y llun, S4C

Sylw manwl

Canllawiau'r Nadolig oedd un o nifer o benderfyniadau anodd mae Mark Drakeford wedi gorfod eu gwneud yn y pandemig ac mae Steffan wedi dod i ddeall sut mae'n dod i benderfyniad: "Mae'n berson sy'n darllen popeth - mae fe'n mynd trwy pob dogfen ac yn siarad â'r bobl sy'n gwybod y manylion, arbenigwyr gwyddonol ac ati.

"Felly mae'n hyderus bod ei benderfyniadau fe'n iawn ar y pryd.

"Yn y ffilm mae fe'n edrych nôl ar rai penderfyniadau ee non essential items, rheolau dros y Nadolig, ac yn ystyried falle bydde fe wedi neud y penderfyniadau 'na'n wahanol.

"Ond ar y pryd roedd e'n ffyddiog taw yn ôl y manylion a'r wybodaeth oedd e'n cael taw 'na'r penderfyniad gorau i neud ar y pryd."

Wrth ganiatáu i'r camerâu ei ddilyn tu ôl i ddrysau caeedig mae Mark Drakeford o bosib yn agor y drws i fwy o feirniadaeth ond doedd hynny ddim yn ei boeni, yn ôl Steffan: "'Oedd person gyda ni oedd ddim yn ofn falle edrych yn wael a ddim yn ofn bod pobl mynd i beirniadau fe.

"O'n ni'n cael ffilmio popeth - oherwydd fod Mark yn academydd sy' wedi astudio'r clasuron, 'oedd e'n gweld e fel cofnod o gyfnod fyddwn ni ddim yn gweld eto."

Ymateb y cyhoedd

Bu Steffan a'i dîm yn dyst hefyd i faint o feirniadaeth mae'r Prif Weinidog yn ei gael gan y cyhoedd: "Mae lot o ymateb ar social media i sut mae Mark 'di ymdopi ac mae pobl yn ei ddisgrifio fel grinch sy'n dwyn y Nadolig ac fel y person sy'n cau siopau a thafarndai.

"Mae'n disgrifio ei hun fel person sy' dan warchae weithiau.

"Mae hynny'n rhoi pwysedd ar ei deulu - pan mae allan am dro gyda'r teulu mae pobl yn ffilmio fe ac mae rhai pobl yn neis a rhai ddim.

"Mae hanner yn dod lan a dweud 'da iawn chi' a'r hanner arall yn dweud 'pam ydych chi'n neud hwn?'

"Mae hynny'n digwydd ac mae ei deulu fe'n dweud wrtho weithiau i beidio dod gyda nhw am dro i'r parc achos bod e'n sbwylio'r profiad iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford ar ymweliad i fwyty yng Nghwmbran

Y dyn tu ôl i'r swydd

Mae pawb yn gyfarwydd â'r Mark Drakeford sydd i'w weld mewn cynadleddau wasg ac rydym eisoes yn gwybod am ei hoffter o gaws ond mae'r rhaglen hefyd yn dangos y Prif Weinidog yn mwynhau ei ychydig amser hamdden: "Chi'n gweld e'n chwarae squash - mae'n wych am squash ac mae'n chwarae clarinét yn dda iawn. Mae lot o bethau ni ddim wedi gweld o'r blaen.

"Mae Mark lot mwy doniol na mae'n dod drosodd ac mae fe'n realistig iawn ac yn trio gwneud y penderfyniad gorau ar y pryd.

"Dwi byth 'di gweld e'n mynd yn grac nac yn gweiddi. Mae'n berson tawel iawn.

"Mae e'n stwbwrn, yn ddeallus ac mae gwerthoedd yn rili bwysig iddo fe. Mae moyn plant yn yr ysgol achos mae fe'n meddwl am y plant hynny sy' mewn cartrefi heb gefnogaeth.

"Mae e methu deall y big deal am siopa - mae e ffaelu deall pam fod pobl ishe mynd i Asda mawr a prynu sanau.

"Ar y llaw arall mae'n arbennig o ddeallus ac yn stwbwrn - chi methu newid ei feddwl e os mae fe wedi penderfynu rhywbeth."

Cyfnod i'w gofio

Ac mae Steffan yn arbennig o falch i gael y cyfle i fod yn bry ar y wal yn ystod cyfnod mor gofiadwy: "Mae'n gyfnod rili pwysig a diddorol mewn hanes sy'n bwysig i ni ei gofnodi a dwi mor lwcus bod fi wedi bod yn rhan o ffilmio fe.

"A dwi'n gobeithio mewn blynyddoedd i ddod bydd pobl yn gwylio nôl ac yn gweld e fel cyfnod arbennig yn ein hanes ni."

Gwyliwch Prif Weinidog mewn Pandemig ar S4C am 9.00 nos Sul, Mawrth 7fed.

Hefyd o ddiddordeb