Llywodraeth i drafod llacio cyfyngiadau teithio cyn y Pasg
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth Cymru a swyddogion iechyd gwrdd yn ddiweddarach ddydd Iau i drafod llacio'r cyfyngiadau teithio.
Eisoes mae gweinidogion wedi dweud pe bai lefelau Covid yn parhau yn sefydlog, yna fe allai rhannau o'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys llety hunan-ddarpar, ailagor ar 27 Mawrth.
Yng Nghymru mae'r rheolau teithio eisoes wedi eu llacio o 'arhoswch gartref' i 'arhoswch yn lleol'.
Pe bai rheolau teithio yn cael eu llacio ymhellach, mae'n bosib byddai caniatâd i fynd ar wyliau i unrhyw le yng Nghymru.
Mae rheolau gwahanol yn Lloegr yn golygu na allai bobl groesi'r ffin ar hyn o bryd.
Ddydd Gwener diwethaf fe ddywedodd y prif weinidog Mark Drakeford y byddai penderfyniadau pellach ynglŷn â'r sector twristiaeth yn cael eu gwneud yr wythnos hon.
Mae Rhian Parry, perchennog busnes gwyliau ym Mhen Llŷn, yn brysur yn paratoi mewn gobaith y bydd yn cael croesawu ymwelwyr eto yn fuan.
"Dwi wrthi'n llnau, yn rhedeg y systemau dŵr, yn paratoi bob dim fel tasa ni'n mynd i agor," meddai.
Ond er yn edrych ymlaen, mae Ms Parry, perchennog Gwyliau Fferm Crugeran yn Sarn, yn ceisio peidio "poeni'n ormodol am y peth".
"Dwi'n 'neud y gora' i reoli be fedra' i reoli, felly dwi'n paratoi fy mythynnod fel ein bod ni'n agor ddydd Sadwrn," meddai.
"Os dydy o ddim yn digwydd, o leia' fydd o'n llai o waith at y tro nesa!"
'Gwyliau yn rhan mawr o fywydau pobl'
Wrth i'r llywodraeth lacio rhai cyfyngiadau yn gynharach yn y mis, fe gafodd siopau trin gwallt a chanolfannau garddio agor eto.
Os caiff busnesau twristiaeth agor ddydd Sadwrn, mae gobaith wedyn y gallai busnesau lletygarwch ailagor yn yr awyr agored o 22 Ebrill ymlaen.
Dywedodd Ms Parry ei bod wedi bod yn paratoi ers rhai wythnosau bellach gan ei bod yn anodd cael gafael ar bethau fel dodrefn newydd i'w bythynnod.
"Does 'na ddim stoc ar gael yn llefydd ac mae pethau yn cymryd lot hirach i gael eu danfon, felly dwi 'di dechra' paratoi dipyn o wythnosau'n ôl ond dwi dal methu cael rhai pethau."
Mae ei bythynnod wedi bod yn llawn ar gyfer gwyliau'r Pasg ers y llynedd, gan fod nifer o bobl wedi trosglwyddo'u gwyliau.
Er hyn, roedd nifer o'r archebion gan bobl o Loegr, felly roedd yn rhaid iddi eu hail lenwi gydag archebion gan bobl o Gymru yn unig am y tro.
"Yr ha' diwethaf roeddwn i wedi dychryn pa mor werthfawrogol oedd y bobl a fuodd yma'n aros - ges i flodau, poteli o win a chardiau yn diolch i mi. Mae gwyliau'n rhan mawr o fywydau pobl," meddai.
'Pobl wedi methu natur a hanes a'r prydferthwch'
Hefyd yn "gwrando'n astud" am unrhyw gyhoeddiad pellach mae Rebecca Williams, cyfarwyddwr cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Ar Dros Frecwast, dywedodd bod yr ymddiriedolaeth yn gobeithio cael croesawu ymwelwyr "cyn bo hir", ac yn cymryd "camau bach" i baratoi yn y cefndir.
"'Da ni'n gw'bod bod pobl wedi methu natur a hanes a'r prydferthwch sy' gyda ni, a 'da ni'n gobeithio bod ni'n gallu creu llefydd diogel i bobl ymweld â nhw, y camau cyntaf at normalrwydd falle," meddai Ms Williams.
"Ond 'da ni yn rhoi systemau yn eu lle i sicrhau bod pobl yn ddiogel - llwybrau unffordd a sgrins ac ati.
"Ond hefyd 'da ni'n gobeithio bod ni'n creu lle bod pobl yn gallu mwynhau tra bod nhw gyda ni..."
Dywedodd Sean Taylor, perchennog Zip World, sy'n cynnal sawl weiren wib mewn safleoedd yng Nghymru: "Y peth pwysicaf yw rhybudd... Mae angen i ni gynllunio o flaen llaw.
"Bydd unrhyw fusnes sy'n cael ailagor ar ôl y cyfnod clo angen amser ar gyfer hyfforddi'u staff ac i drefnu pethau efo'u cyflenwyr.
"Mae hyd yn oed y pethau mwyaf sylfaenol fel te a choffi angen eiliad i'w trefnu cyn y gallwch agor eich drysau."
Mae Nia Plas, sy'n berchen ar Glampio Coed yn Aberdaron ym Mhen Llŷn, hefyd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer croesawu pobl yn ôl i'w chanolfan glampio.
"Dwi wir yn edrych ymlaen i gael ailagor. Ges i fy mhigiad cyntaf dydd Llun felly'n teimlo 'chydig bach mwy hyderus," meddai.
Bydd Glampio Coed ond yn agor tri o'u saith caban os ddaw'r caniatâd, gan mai ond dau ohonyn nhw sydd yn rhai hunangynhaliol. Bydd y trydydd caban yn cael y toiled cymunedol i'w hunain.
"Rydyn ni ond yn agor tri caban er mwyn g'neud yn siŵr fod neb yn rhannu cyfleusterau," meddai.
"Dwi'n teimlo'n braf ein bod ni'n cael agor o leiaf tri o'r cabannau i gael dechrau'r broses o ailagor ac i gael croesawu'r ymwelwyr unwaith eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021