Ymgeisydd Plaid ddim yn sefyll tra bod AS yn gwadu trawsffobia

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Owen HurcumFfynhonnell y llun, Owen Hurcum
Disgrifiad o’r llun,

Owen Hurcum oedd y pedwerydd ymgeisydd Plaid Cymru ar restr rhanbarthodd Gogledd Cymru

Mae un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai wedi ymddiswyddo gan ddweud bod y blaid "yn parhau i roi llwyfan i bobl sy'n hyrwyddo trawsffobia".

Mae ymgeisydd trawsryweddol cyntaf Plaid Cymru, Owen Hurcum, sydd am gael ei adnabod gyda'r rhagenw 'nhw' wedi tynnu eu henw o restr ranbarthol Gogledd Cymru wedi ffrae am sylwadau Helen Mary Jones yn hystings elusen Youth Cymru ym mis Chwefror.

Cyhuddodd Owen Hurcum yr Aelod o'r Senedd dros Ganol a Gorllewin Cymru o "gyflawni trawsffobia" a dywedodd nad yw arweinydd y blaid, Adam Price, yn mynd i'r afael â'r mater.

Mae Ms Jones wedi gwrthod gwneud sylw ond yn y gorffennol mae hi wedi gwadu bod yn drawsffobig, ac mewn neges ar gyfrif trydar wedi dweud "nad yw ffeministiaid sy'n feirniadol o rywedd (gender critical feminists) yn ymosod ar bobl traws. Rydyn ni'n gofyn cwestiynau".

Mewn trydariad arall mae hi wedi dweud ei bod yn "poeni, fel llawer o bobl, gan gynnwys pobl traws, am effeithiau posib y newidiadau arfaethedig i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a hawliau menywod a merched".

Plaid Cymru: 'Polisi clir'

Dywedodd Plaid Cymru fod gan y blaid "bolisi clir a diamwys, sy'n cael ei gefnogi gan Gyngor Cenedlaethol y Blaid, a bod gan bobl traws hawl diamod i fyw yn rhydd rhag rhagfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth".

Dywed ymgyrchwyr traws fod Ms Jones wedi defnyddio ymadroddion trawsffobig pan siaradodd mewn digwyddiad grŵp ymgyrchu, Woman's Place UK.

Yn y digwyddiad, cwestiynodd a yw cynnydd yn nifer y bobl sy'n nodi eu bod yn fenywod traws wedi cael ei achosi gan bwysau i edrych mewn ffordd benodol gan y cyfryngau cymdeithasol.

Dywed nifer o bobl traws bod y ddadl hon yn sarhaus.

Mae Woman's Place UK yn ymgyrchu dros ofod i fenywod yn unig a "thrafodaeth barchus sy'n seiliedig ar dystiolaeth" ar newidiadau arfaethedig i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd - deddf oedd â'r nod o wneud newid rhyw cyfreithiol rhywun yn symlach.

Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Mary Jones AS wedi gwrthod gwneud sylw ond yn y gorffennol mae wedi gwadu bod yn drawsffobig

Dywed Owen Hurcum y dylai'r blaid ddechrau ar broses ddisgyblu yn erbyn Ms Jones.

"Rydw i eisiau i Helen Mary Jones ymddiheuro mewn ffordd na sy'n dweud 'Mae'n ddrwg gen eich bod yn flin 'da fi'," meddai.

"Rydw i eisiau ymddiheuriad diffuant ac rydw i eisiau iddi wneud ymdrech i ddysgu am y gymuned a deall pam ei bod hi'n hyrwyddo trawsffobia.

"Os na fydd hi'n ymddiswyddo, mae angen iddi o leiaf ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n flin a bod hi'n dysgu, ac mae angen i Adam Price, fel arweinydd y blaid, ei gwneud hi'n hynod o glir, bod gan y blaid bolisïau gwych os ydyn nhw yn dod i rym a hefyd eu bod yn mynd i ddelio â thrawsffobia o fewn y blaid ar unwaith.

"Os gall Adam Price wneud datganiad cyhoeddus bod proses ddisgyblu yn cychwyn, byddem yn gwerthfawrogi hynny."

Mewn datganiad, dywedodd Plaid Cymru: "Mae gan Plaid Cymru bolisi clir a diamwys, gyda chefnogaeth ei Gyngor Cenedlaethol, bod gan bobl traws yr hawl diamod i fyw yn rhydd rhag rhagfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth.

"Mae Plaid Cymru yn cefnogi cydraddoldeb i bobl draws a bydd yn parhau i ymgyrchu i gael yr hawl i ddeddfu ar faterion cydraddoldeb sydd wedi'u datganoli, fel y bydd gan y Senedd y pŵer priodol i amddiffyn pobl traws ac eraill sy'n dioddef rhagfarn a gwahaniaethu."

Ymchwilio i fater arall

Yn y cyfamser, mae'r elusen Youth Cymru wedi cael ei beirniadu am y ffordd y cafodd merch ifanc drawsryweddol ei thrin yn yr hystings ar gyfer pobl ifanc yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Shash Appan ei thynnu o'r digwyddiad ar-lein ar ôl iddi arddangos, fel arwydd o brotest, baner traws gyda llun Helen Mary Jones yn gefndir i'w llun proffil.

Dywed Youth Cymru, sy'n cefnogi prosiectau i bobl ifanc ledled Cymru, eu bod "yn ymchwilio i'r mater cyn ac yn ystod y digwyddiad a hefyd yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol".

Dywed Shash Appan, sy'n rhedeg y grŵp ymgyrchu Trans Aid Wales, ei bod yn teimlo "ei bod wedi ei thawelu a'i sensro" am y ffordd mae wedi ei thrin gan Youth Cymru.

Dywedodd iddi geisio codi pryderon am gynnwys sylwadau Helen Mary Jones yn yr hystings i bobl ifanc cyn y digwyddiad, ond nad oedd wedi derbyn ymateb.

Dywed iddi benderfynu mynd i'r digwyddiad a chyflwyno cwestiynau, cyn ac yn ystod sesiwn holi Ms Jones ar hawliau trawsryweddol, ond ei bod wedi'i rhwystro rhag defnyddio'r ffurflen Holi ac Ateb yn ystod y digwyddiad.

Plaid CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Plaid Cymru bod gan bobl traws "yr hawl diamod i fyw yn rhydd rhag rhagfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth"

"Penderfynais newid fy nghefndir i'r faner draws gyda'r geiriau 'Mae hawliau traws yn hawliau dynol' arni," meddai.

"Cafodd fy fideo ei droi i ffwrdd yn gyflym felly newidiais fy llun proffil i'r un ddelwedd. Yn y diwedd cefais fy ngorfodi i adael y digwyddiad.

"Cefais fy sensro a fy nhawelu am geisio sefyll dros hawliau traws. Roeddwn wedi dychryn a meddyliais ar unwaith bod y sefydliad hwn yn ein hystyried [pobl traws] yn fygythiad.

"Fy mhryder cyntaf oedd na ddylai grwpiau sy'n cynrychioli pobl ymylol gael eu cyfeirio at Youth Cymru."

Ymddiswyddo

Mae dau o ymddiriedolwyr Youth Cymru wedi ymddiswyddo yn dilyn y digwyddiadau yn yr hystings.

Dywedodd yr awdur a'r bardd, Llio Maddocks, ar Twitter, ei bod wedi dod yn ymddiriedolwr Youth Cymru yn ddiweddar ond na allai fod yn gysylltiedig â sefydliad sy'n rhoi llwyfan i Helen Mary Jones.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Youth Cymru: "Mae Cadeiryddion yr Ymddiriedolwyr ac Adnoddau yn ymchwilio i'r mater cyn ac yn ystod y digwyddiad ac yn edrych hefyd ar yr hyn ddigwyddodd ar ôl yr hystings ar gyfryngau cymdeithasol.

"Gall unrhyw ymatebion newydd ar wahân i'r rhai sydd wedi'u nodi eisoes effeithio ar unrhyw gamau y byddwn o bosib yn ystyried eu gweithredu."