Pont newydd wedi'i chodi i'w lle yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae pont sy'n cysylltu canol dinas Abertawe gydag arena newydd gwerth £135m wedi cael ei chodi i'w lle dros y penwythnos.
Mae Pont Bae Copr yn 49 metr o hyd ac yn croesi Heol Ystumllwynarth, a bu'r ffordd ar gau nos Sadwrn tra bo'r bont yn cael ei chodi i'w lle.
Cafodd yr hen bont gerdded ei symud o'r safle ar ddechrau 2020.
Mae disgwyl i'r bont gael ei agor i gerddwyr a seiclwyr cyn i'r arena gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2020