Dim angen i ferched bryderu am hyfforddi pêl-droed dynion

  • Cyhoeddwyd
Nia DaviesFfynhonnell y llun, Nia Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Davies wedi cymhwyso fel hyfforddwr trwydded A gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru ers 2020

Mae'r ferch gyntaf i gael swydd hyfforddi llawn amser gyda chlwb pêl-droed yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi dweud na ddylai merched bryderu am symud i weithio ym maes pêl-droed dynion.

Ag hithau'n ddiwrnod rhyngwladol y merched, roedd Nia Davies yn siarad ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru.

Mae Ms Davies bellach yn gweithio fel hyfforddwr pêl-droed i Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru cyn cyfnod yn rheoli academi Pen-y-bont.

Dywedodd y dylai "merched allu gwneud beth maen nhw eisiau ac i beidio poeni am symud fewn i gêm y dynion a bod y cyfleodd i ferched yn bodoli".

Ar y cyfan roedd hi'n pwysleisio bod ei phrofiad o weithio yn y maes wedi bod yn "anhygoel ac roedd llawer o gyfleoedd i mi ddatblygu fel coach", meddai.

Disgrifiad,

Nia Davies yn hyfforddi Pêl-droed

Stereoteipio

Ms Davies oedd y ferch gyntaf i gael ei phenodi i swydd hyfforddi llawn amser gyda chlwb yn Uwch Gynghrair Lloegr a hynny yn academi'r bechgyn gyda CPD Abertawe.

"Ar y pryd doeddwn ddim yn gweld fy hun fel yr un gyntaf, roeddwn jest yn hoffi hyfforddi'r bechgyn cyn symud i Ben-y-bont i roli'r academi," meddai.

Er gwaetha'r ymateb positif, mae Ms Davies ei hun yn cyfaddef ei bod hi wedi profi "stereoteipio" ar hyd y ffordd.

"Mae rhai yn credu mai tick box exercise yw e a weithiau roeddech chi'n cael y stereotype mai chi oedd y physio yn lle'r coach.

"Weithiau rydych yn meddwl gormod amdano fe ac weithiau'n teimlo fod rhaid i chi brofi eich hun.

"Ond, y peth pwysicaf, dim ots os ydych chi'n ddynes neu ddyn, datblygu chwaraewyr yw'r peth pwysig," meddai.

Gwrandewch ar y cyfweliad rhwng Nia Davies a Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Bethan Clement yn llawn yma.