Bachgen, 5, i 'ddringo Everest' wedi tân laddodd ei frawd

  • Cyhoeddwyd
BrodyrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Zac (chwith) yn y digwyddiad, ac roedd ei frawd Harley mewn cyflwr difrifol wedi'r tân

Mae plentyn a ddioddefodd losgiadau a newidiodd ei fywyd mewn tân carafán a laddodd ei frawd tair oed yn ceisio "dringo Everest" o'i gartref.

Bu farw Zac Harvey yn y tân fis Ionawr diwethaf, tra'n aros noson gyda'i dad ger Tregaron, Ceredigion.

Nid oedd disgwyl i'w frawd Harley, a oedd yn bedair oed ar y pryd, oroesi ei anafiadau.

Ond 14 mis yn ddiweddarach, mae wedi gwella bron yn llwyr ac mae'n bwriadu codi arian i elusen drwy ddringo'r hyn sy'n cyfateb i gopa mynydd uchaf y byd.

'Nôl ym mis Ionawr 2020, roedd mam y bechgyn, Erin, yn dal gartref ychydig filltiroedd i ffwrdd ac yn anymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd.

Dywedwyd wrthi y bore wedyn, ar ôl deffro i nifer o alwadau a negeseuon, fod Harley wedi cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Bryste i gael llawdriniaeth ar unwaith, ond bod Zac, 3, yn dal i fod yn y garafán yn Ffair Rhos.

"Daeth yr heddlu bryd hynny, ac er fy mod i'n gwybod beth roedden nhw'n mynd i'w ddweud am Zac, pan ddywedon nhw hynny, fe aeth popeth ar chwâl," meddai.

Nid yw achos y tân yn hysbys ond nid yw'n cael ei drin fel un amheus.

Roedd tad y bechgyn, Shaun, hefyd angen triniaeth ysbyty ac mae'r teulu'n aros am gwest.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Harley yn cerdded am y tro cyntaf ers y tân

Ar ôl cael gwybod y newyddion erchyll am Zac, gwnaeth Erin y siwrne tair awr a hanner i Fryste i fod wrth wely Harley.

Roedd Harley mewn cyflwr difrifol ac mewn coma, gyda rhwymynnau'n amddiffyn y clwyfau ar hyd ei gorff.

Nid oedd y prognosis yn dda.

"Fe wnaethon nhw [y tîm meddygol] ein heistedd i lawr a dweud wrthyn ni am baratoi ar gyfer y gwaethaf," meddai Erin.

Yn anhygoel, dim ond tair wythnos yn ddiweddarach cymerodd Harley ei gamau cyntaf, gan syfrdanu staff yr ysbyty a'i deulu.

Tair wythnos arall ac roedd Harley adref, ychydig cyn i'r pandemig coronafeirws daro.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Erin Harvey fod ei meibion yn rhoi cryfder iddi "gario 'mlaen"

Mae byw yng nghefn gwlad canol Cymru yn ystod y pandemig wedi golygu nad yw Harley wedi cael y driniaeth ffisiotherapi cleifion allanol yr oedd ei angen arno ar gyfer ei law chwith a'i fraich.

Bydd ei adferiad yn y dyfodol yn parhau yn Ysbyty Treforys Abertawe, felly mae Harley, sydd bellach yn bump oed, a'i frawd hŷn Alex wedi penderfynu codi arian ar gyfer yr elusen leol, Clwb Llosgiadau y Ddraig Gymreig (Welsh Dragon Burns Club).

'Yr Wyddfa ddim yn ddigon o her'

Eu nod dros 12 wythnos yw dringo'r hyn sy'n cyfateb i'r 29,031 troedfedd (8,848m) i gopa Mynydd Everest - sydd tua 44,000 o risiau.

"Yn wreiddiol roedden ni eisiau cerdded i fyny'r Wyddfa ond doedd gwneud hynny ar risiau ddim yn ddigon o her, felly aethon ni am Everest," meddai Erin.

"Mae Harley ac Alex wedi bod mor wych, yn enwedig Harley. Mae ei bositifrwydd a'i egni wedi ein helpu ni i gyd i fynd trwyddo, yn enwedig fi.

"Bob dydd bydd rhywbeth sy'n fy atgoffa o Zac a byddaf yn mynd yn emosiynol. Ond mae gen i'r plant i fy helpu i godi'n ôl a chario 'mlaen."