Ailddechrau rygbi lleol 'yn teimlo'n bell i ffwrdd'
- Cyhoeddwyd
Mae chwarae rygbi eto yn dal i deimlo "yn bell i ffwrdd", 12 mis ers i'r argyfwng coronafeirws ddod â gemau ar lawr gwlad i stop.
Dyna farn Glyn Hughes o Glwb Rygbi Pwllheli, sy'n gobeithio medda fo "y gwelwn ni rygbi unwaith eto erbyn mis Medi".
Ar gais Undeb Rygbi Cymru mae gan bob clwb swyddog sy'n gyfrifol am ddiogelu chwaraewyr ac eraill rhag yr haint. Glyn Hughes sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb ym Mhwllheli.
"Mae'r undeb wedi bod yn arbennig o dda o ran cefnogaeth ariannol i'r clybiau, ond hefyd o ran darparu canllawiau reit gadarn ar gyfer pob clwb," meddai.
"Mae'n rhaid i ni neud yn siŵr, os ydan ni'n hyfforddi neu pan fydda ni'n dod nôl i chwarae gemau, bod ni'n medru sicrhau fod hi'n ddiogel i oedolion ac i blant."
Gyda iechyd yn flaenoriaeth mae yna bwyslais ar yr angen i fod yn amyneddgar. Ond mae'n bryder pellach, pan ddaw hi'n amser i ailddechrau, y bydd rhai chwaraewyr ifanc yn troi'u cefnau ar rygbi, oherwydd y pandemig.
Ychwanegodd: "Mae yna flwyddyn wedi mynd heibio rŵan. Mae gen i bryder y bydd llawer o chwaraewyr ar lefel cymunedol - plant yn enwedig - yn colli diddordeb.
"Fe fydda nhw wedi mynd allan o'r arfer o ddod yma, ac fe fydd pethau eraill wedi cymryd eu bryd nhw."
Cadarnach na llawer
Tra'n rhannu'r un pryderon mae Dafydd Myrddin, sy'n hyfforddi'r tîm ieuenctid, yn pwysleisio fod Pwllheli ar seiliau cadarnach na llawer o glybiau. Ar y llyfrau mae gan Bwllheli dros 400 o chwaraewyr ifanc rhwng saith ac 16 oed, yn ogystal â thîm ieuenctid llewyrchus.
"Dwi'n siŵr y bydd yna ddigon o frwdfrydedd ym Mhwllheli - a 'peer pressure' i dynnu pawb yn ôl! Ond dwi'n bryderus ar draws y wlad sut bydd hi. Dwi'n rhagweld y bydd angen ystyried chwarae gemau 10-bob-ochr neu saith-bob-ochr i gael rhyw fath o fomentwm i ni gael symud ymlaen - a hynny hyd yn oed ar lefel y timau oedolion hefyd."
Ddiwedd y llynedd cafodd ychydig o hyfforddi ei ganiatáu am gyfnod, cyn dechrau'r clo diweddaraf fis Rhagfyr. Yn ôl Dafydd Myrddin mae yna wersi i'w dysgu o hynny hefyd.
Tro nesa meddai, "boed hi'n fis Medi neu'n 'Dolig hyd yn oed" mae'n bwysig ailddechrau ar yr adeg cywir.
"Mynd amdani go iawn bryd hynny sydd angen a pheidio codi gobeithion yn rhy fuan - gan orfod stopio o bosib eto."
Effaith ar blant
Yn athro ysgol ac yn ysgrifennydd Adran Iau Clwb Rygbi Pwllheli mae Gareth Hodgson yn llawn ymwybodol hefyd o effaith y pandemig ar blant.
"Mae ochr gorfforol y gêm yn golygu fod rhai o'n chwaraewyr ni o bosib heb gyffwrdd pêl na chyflawni unrhyw dacl mewn blwyddyn. Ac wrth gwrs mae yna ddirywiad posib yn mynd i fod mewn lefelau ffitrwydd a lefelau sgil hefyd. 'Da ni yn draddodiadol yn colli chwaraewyr ar ôl 16 oed beth bynnag. Mae gen i bryder y byddwn ni'n colli mwy o chwaraewyr na'r arfer - a phryder hefyd am y sgil-effeithiau cymdeithasol, emosiynol a seicolegol sy'n dod o beidio chwarae."
Roedd gan Undeb Rygbi Cymru ryw 300 o glybiau dan eu hadain pan darodd y pandemig y llynedd. Yn ôl Cadeirydd URC Rob Butcher mae'n "flaenoriaeth i ddod allan o hyn gyda'r clybiau i gyd mewn sefyllfa i groesawu ei chwaraewyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr ac aelodau yn ôl."
Maen nhw'n "hyderus y gall hyn gael ei gyflawni" ar ôl cydweithio'n agos efo'r clybiau dros y flwyddyn ddiwethaf. "Unwaith y bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu fe fyddwn ni'n barod i roi sêl bendith i rygbi ddychwelyd yn raddol a gofalus."
Dyna'r gobaith felly, gyda chlybiau o Bwllheli i Benfro yn disgwyl am arweiniad pellach. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'i hadolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau ddydd Gwener. Efallai bryd hynny y bydd yna awgrym o'r llwybr posib yn ôl i'r campau ar lawr gwlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Awst 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020