Ailddechrau rygbi 'ddim yn fater syml' medd Wayne Pivac

  • Cyhoeddwyd
Wayne PivacFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Lles chwaraewyr fydd yn cael blaenoriaeth pan fydd modd ail ddechrau chwarae rygbi - dyna mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn ei ddweud.

Mae holl weithgareddau rygbi wedi eu hatal am y tro oherwydd yr argyfwng coronafeirws, gyda dim sicrwydd pryd y bydd modd ailgychwyn.

Yn ôl Pivac bydd yn rhaid bod yn hynod ofalus unwaith y bydd modd gwneud hynny o ran diogelu yn erbyn y feirws, a sicrhau nad yw chwaraewyr yn dioddef anafiadau yn sgil methu ymarfer yn gyson.

"Fydd hi ddim yn fater syml o fynd yn ôl a throi lan i ymarfer a chwarae," meddai.

"Mae rhywun yn dychmygu y bydd angen gwneud profion gan fod gofyn i chi fod dau fedr ar wahân a chwarae rygbi.

"Mi fydd yna rywbeth y bydd angen gwneud er mwyn sicrhau y gallwn ni ddilyn y broses rygbi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ysbyty Calon y Ddraig le ar gyfer hyd at 2,000 o welyau

"Mae'n anhygoel meddwl ond ychydig wythnosau yn ôl roedden ni'n ymarfer yn Stadiwm Principality a Gwesty'r Fro ac yn awr maen nhw'n ysbytai," ychwanegodd.

"Mae'n rhoi chwaraeon mewn persbectif ac yn tanlinellu maint yr hyn 'dan ni'n delio ag e.

"Mae'r rhain yn adegau unigryw ac mae'n anhygoel gweld beth sydd wedi digwydd."

'Helpu rhoi gwên yn ôl ar wynebau pobl'

Mae Pivac yn credu gall y tîm rhyngwladol godi ysbryd y genedl unwaith y bydd modd ailddechrau chwarae gemau.

"Mi fydd hi'n enfawr pan fydden ni'n dychwelyd oherwydd mae chwaraeon yn chwarae rhan fawr yn ein bywydau," meddai.

"Mae rygbi Cymru'n chwarae rhan enfawr yn y gymuned.

"Gallwn ni helpu rhoi gwên yn ôl ar wynebau pobl. Mi fydd hi'n ddiwrnod arbennig pan fydden ni'n ôl, gallai eich sicrhau chi o hynny."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad oedd y tro diwethaf i Gymru chwarae cyn y pandemig

Mae gan Gymru un gêm yn weddill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad - y gêm gartref yn erbyn yr Alban a gafodd ei gohirio o 14 Mawrth.

Ac mae'n edrych yn debygol iawn y bydd taith yr haf i Japan a Seland Newydd yn cael ei gohirio oherwydd y pandemig.

Mae'n bosib y bydd gêm yn erbyn y Crysau Duon yn cael ei haildrefnu ar gyfer mis Hydref cyn gemau cyfres yr hydref yng Nghaerdydd y mis canlynol.

"Pe bydde rhaid chwarae chwe neu saith gem brawf dros wyth i 10 wythnos, mi fydden nhw'n edrych ymlaen at y cyfle," meddai Pivac.

"Wrth siarad â'r chwaraewyr maen nhw eisiau dod nôl i ryw fath o normalrwydd, fel pawb arall."

Ychwanegodd Pivac, a olynodd Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, mai lles y chwaraewyr oedd y flaenoriaeth.

Mae wedi datgan eisoes bod y salwch wedi effeithio tri aelod o'r garfan, heb ddatgelu pwy oedd y chwaraewyr hynny, ond ni fu'n rhaid iddyn nhw fynd i'r ysbyty.

"Beth mae hyn yn ddweud wrthym ni yw gallech chi fod y boi mwya' ffit yn y byd ond dyw'r peth hwn ddim yn gwahaniaethu," meddai Pivac.

"Mae athletwyr, ffit ifanc yn gallu ei ddal, fel pobl hŷn.

"Ond rydyn ni yn ffodus nad oes neb wedi bod yn ddifrifol wael gyda'r feirws."