Helen Mary Jones yn ymddiheuro i'r gymuned drawsryweddol
- Cyhoeddwyd

Mae Helen Mary Jones AS wedi gwadu ei bod yn drawsffobig
Mae Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru wedi ymddiheuro i'r gymuned drawsryweddol "am y boen a'r loes rydw i wedi'i achosi".
Cyfaddefodd Helen Mary Jones ei bod wedi rhannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol a oedd yn "annerbyniol a thrawsffobig".
Mewn datganiad dywedodd AS Canolbarth a Gorllewin Cymru y byddai'n cau ei chyfrif Twitter personol.
Daw ar ôl i un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai ymddiswyddo.
Dywedodd Owen Hurcum bod y blaid "yn parhau i roi llwyfan i bobl sy'n hyrwyddo trawsffobia".
Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe ymddiheurodd Helen Mary Jones am rannu trydariad a oedd yn beirniadu'r rhai oedd yn cyfatebu'r gwahaniaethu a wynebai'r gymuned drawsryweddol gyda'r Holocost.
'Ymddiheuro'n ddiffuant'
Mewn datganiad ar Twitter ddydd Mercher, dywedodd: "Rwyf wedi cymryd amser i feddwl ac i ddeall sut mae'r gweithredoedd a'r sylwadau yr wyf wedi'u gwneud a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill, gan gynnwys sylwadau hanesyddol sydd wedi dod i'r wyneb, wedi achosi llawer o loes a niwed i bobl. Yn enwedig i'r gymuned draws.
"Rwy'n cydnabod yn benodol bod rhai o'r cyfrifon rwy'n eu dilyn ac yn eu hail-drydar wedi rhannu cynnwys sy'n annerbyniol ac yn drawsffobig ac rwy'n gresynu'n fawr at effaith hyn ar unigolion yn ogystal â'r gymuned draws yn ehangach.
"Am hyn, rwy'n ymddiheuro'n ddiffuant i'r gymuned draws am y boen a'r loes rydw i wedi'i achosi. Rwy'n dal i ddysgu."
Dywedodd ymgeisydd Llanelli a Chanolbarth a Gorllewin Cymru y bydd yn ymgymryd â "hyfforddiant ymwybyddiaeth perthnasol" gan sefydliad allanol.

Roedd Owen Hurcum wedi cyhuddo Helen Mary Jones o fod yn "drawsffobig"
"Hon fydd y post olaf y byddaf yn ei gyhoeddi ar y cyfrif Twitter hwn cyn ei gau o fewn yr ychydig oriau nesaf," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Plaid Cymru yn cydnabod y datganiad a gyhoeddwyd gan Helen Mary Jones a'i ysbryd didwyll.
"Rydym yn parhau i fod yn ddiysgog yn ein hymrwymiad i greu Cymru sy'n deg, yn gyfartal ac yn gyfiawn i'w holl ddinasyddion.
"Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y maniffesto a fydd yn cynnwys datganiad clir o gefnogaeth i'r gymuned draws, wedi'i gymeradwyo gan yr holl ymgeiswyr sy'n sefyll yn enw Plaid Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020