Lle i enaid gael llonydd: Richard Rees
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd a chynhyrchydd radio, Richard Rees, wedi mwynhau cael crwydro yn agos at adref yn Nyffryn Tywi yn ystod y cyfnod clo.

Fel arfer, os fydda i'n chwilio am bach o lonydd neu llonyddwch, fydda i'n troi at y môr neu'r mynyddoedd.
Dwi'n fynyddwr brwd a dwi'n ffodus iawn i gael y Mynydd Du, Bannau Brycheiniog a mynyddoedd y Preseli o fewn cyrraedd. Os am droi at lan y môr wel, traeth Cefn Sidan, neu un o draethau anghysbell Penrhyn Gŵyr neu arfordir Sir Benfro amdani.
Ond, ers misoedd bellach mae bob un o fy hoff lefydd wedi bod tu hwnt i'm cyrraedd oherwydd Covid- 19.

Yn ffodus iawn, dwi'n byw yng nghefn gwlad gyda thir fferm a choedwigoedd o'm cwmpas.
Mae Huw, ffermwr sy'n gymydog i ni, yn garedig iawn wedi rhoi caniatâd i ni gerdded ar dir y fferm sydd ar ben y bryn yn edrych allan dros Ddyffryn Tywi.

Sawl gwaith, bron yn wythnosol dros y misoedd diwethaf, 'y ni wedi cerdded trwy'r caeau a threulio bach o amser yn pendwmpian ger Tŵr Paxton, ac yn syllu ar un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru.

Mae cael gweld yr afon a chadw llygad ar agor am fywyd gwyllt wedi bod yn fodd i fyw dros y cyfnod rhyfedd, cythryblus yma. Diolch Huw!
Hefyd o ddiddordeb: