Canfod corff wrth chwilio am ddynes sydd ar goll o Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae heddweision sydd wedi bod yn chwilio am gerddwraig goll ger arfordir Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff ar draeth yn Sir Benfro.
Cafodd Susan Smith ei gweld ddiwethaf ar ddydd Sadwrn, 27 Chwefror ger pentref Cydweli.
Roedd timau achub gwylwyr y glannau, hofrennydd, badau achub yr RNLI a thîm achub mynydd wedi bod yn helpu Heddlu Dyfed-Powys i chwilio amdani ar y pryd, ond ni chafwyd hyd iddi.
Dywedodd yr heddlu bod y tîm sydd wedi bod yn chwilio am Mrs Smith wedi canfod corff ar draeth ger Solfach, Sir Benfro.
"Mae teulu Mrs Smith wedi cael gwybod am y sefyllfa, ond nid ydy'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto," meddai llefarydd.
"Ar hyn o bryd does dim awgrym o unrhyw amgylchiadau amheus."
Credir bod Mrs Smith wedi bod yn cerdded ar y traeth rhwng Llanismel a Glanyferi pan aeth ar goll.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021