John ac Alun: Cofio cyfnod 'boncyrs' wedi'r albwm cyntaf

  • Cyhoeddwyd
John ac AlunFfynhonnell y llun, Sain

Mae'n 30 mlynedd ers i un o ddeuawdau mwyaf llwyddiannus Cymru ryddhau eu halbwm cyntaf.

Dau ganwr gwlad yn perfformio mewn ambell dafarn ym Mhen Llŷn oedd John ac Alun yn wreiddiol - tan i albwm Yr Wylan Wen newid eu bywydau.

Wrth edrych nôl, sut brofiad oedd y cyfan - a be' fydd dyfodol canu gwlad pan ddaw'r pandemig i ben?

Mae'n 30 mlynedd ers rhyddhau Yr Wylan Wen. Oeddech chi'n disgwyl cael cymaint o lwyddiant?

Alun Roberts: Dim o gwbl. Pan ddois i yn ôl i fyw i 'Dweiliog ar ôl bod yn Llundain a Suffolk am rai blynyddoedd - a thra yno wedi chwarae mewn sawl band roc a gwerin - roedd jyst ista yn gornel y dafarn leol hefo John a pheint a gitâr yn dod i ail-adnabod fy nghymuned ac ail-gysylltu hefo ffrindiau yn rhywbeth o'n i'n mwynhau yn fawr.

Pan ofynnodd rhai tafarndai eraill i ni'n dau fynd draw i ganu cân neu ddwy iddyn nhw - pam ddim, 'chydig o hwyl a ballu 'de. Yr elfen gymdeithasu 'ma am wn i.

Heb sylwi, dim cynllun, dim uchelgais, dim camau bwriadol o gwbl, buan iawn roedd yna ddilyniant yn dechrau magu a chyn pen dim, gwahoddiad i fynd i stiwdio Sain. Wel pam ddim, fydd o'n rhywbeth ar gof a chadw i'w gofio rhyw ddydd yn bell yn y dyfodol bydd.

Ond aeth petha' jyst yn boncyrs ar ôl rhyddhau'r albwm.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Fe ryddhawyd dwy albwm cyntaf John ac Alun fel albwm ddwbl yn 1994

John Jones: Mae'n anodd credu fod 30 o flynyddoedd wedi pasio. Oedd fy nhad wedi swnian a swnian arna i i ddod ag albwm allan, gan gofio mai fo ddechreuodd yr holl beth. Efo fo a dau aelod arall dechreues i fynd o gwmpas i ganu, gan alw'n hunain y Millers nôl yn 1973. Felly fasa 'na ddim John ac Alun heb fy nhad!

Mi ddaeth sylw anferth ar ôl rhyddhau'r casét. Roedd pobl o bob rhan o Gymru isio gwybod pwy 'di'r ddau yma o Ben Llŷn a'r galwadau yn fuan iawn wedyn i drafeilio i bob cwr o'r wlad, dim ond y ddau ohonom a rhyw ddarn o PA digon da i'r lleisia'.

Oeddech chi'n gallu ymdopi efo'r holl waith oedd yn dod efo'r llwyddiant?

Alun: Roeddan ni yn rhywle yn canu tair neu bedair gwaith yr wythnos, rhuthro o'r gwaith yng Nghaernarfon a rasio i lawr yr A470, A5 neu A55, a John ru'n fath o Ben Llŷn.

Tra roedd hyn yn mynd ymlaen roedd rhywun yn ceisio cadw swydd, ac yn trio bod yn briod ac yn dad i'r hogia'.

Heb lawn sylwi mi roedd y roundabout wedi cychwyn mynd rownd - y gwragedd yn gorfod bod yn fam a thad a llawer mwy i'r plant.

Unwaith oedd y roundabout wedi cychwyn, gafael yn dynn a mynd am y reid - y reid fwyaf pleserus erioed ond hefyd gyda'i phwysau a'i heriau a'i goblygiadau.

Ffynhonnell y llun, Sain

John: Erbyn rhyddhau'r ail albwm Y Chwarelwr yn 1992 roedd trio cadw swydd a chanu yn mynd yn drech â mi, codi a gweithio yn Chwarel Nanhoron fel weldar ac ati.

Weithia byddai angen gweithio shiffts. Bore Sadwrn er enghraifft, isio bod yn y gwaith am saith a newydd ddod 'nôl o gig noson cynt o Lanfyllin, heb gyrraedd adra tan 1:30 y bore, cael cwsg bach a syth i weithio!

Colli'r plant yn tyfu, ac Angharad y wraig yn gorfod bod yn dad a mam ambell wicend oherwydd y galwadau i fynd i ganu!

Doedd gen i ddim syniad ein bod ni'n mynd i fod mor brysur, ac roedd rhaid mynd doedd, pobl 'di bwcio ni. Trideg-pedwar ballu oeddwn i ar y pryd, dipyn mwy o egni na sgen i rŵan, faswn i byth yn medru 'neud o heddiw!

Gan gofio hefyd nad oedd arian mawr i gael, pleser o gael bod ar lwyfan a gweld ymateb pobl i'r noson, a'r peth fydda yn rhoi boddhad i mi oedd yr arian oeddam ni 'di llwyddo i godi i elusennau.

Oeddech chi'n hoffi'r sylw sy'n dod efo llwyddiant?

John: Mi roedd llwyddiant yn beth rhyfedd yn y blynyddoedd cynnar - pobl yn dod i fyny am sgwrs, pasio chi ar y stryd a stopio chi, "John 'ta Alun yda chi?"

Mi fydd y wraig yn cael hwyl am hyn. Roedd hi yn y dre rhyw fora 'chydig nôl a rhywun yn dod ati a gofyn iddi: "Gwraig John ac Alun yda chi de?", "Nace wir," meddai. "Gwraig John dwi!"

Erbyn heddiw mae hi 'di tawelu i ni, sy'n siwtio fi yn iawn, amser i 'neud petha' eraill. Mae'r wyrion a'r wyresau yn mynd â'r amser rŵan, ond dim yn cael eu gweld yn aml oherwydd y cyfyngiadau!

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Mae John ac Alun ymysg pump artist mwyaf llwyddiannus yn hanes label Sain

Alun: Os dwi'n onast mi roedd yna elfen o lecio'r sylw oedd rhywun yn ei gael a'r diddordeb yn pwy oeddan ni, o le oeddan ni'n dod, hanes ni a'r teuluoedd a ballu - falla'r elfen gymdeithasu 'ma eto?

Ac yn y bôn nosweithia' cymdeithasol oeddan nhw yn bennaf yn codi arian at achosion lleol ac elusennau. A phobl yn garedig iawn yn gadael i ni aros yn eu tai a'n bwydo heb unrhyw drafferth, ac ambell i lwnc destun ar ôl y cyngerdd. A dyna'r ffordd oedd hi'r adeg hynny.

Wnaethoch chi ystyried gwneud newidiadau mawr i'ch bywyd yn sgil y prysurdeb - rhoi gorau i'ch gwaith 9-5 yn llwyr er enghraifft?

Alun: Doedd hi ddim yn opsiwn yn y blynyddoedd cyntaf, efo teulu ifanc, i fynd yn broffesiynol gan nad oedd yna unrhyw sicrwydd pa mor hir neu fyr oedd hyn i gyd am bara.

Ac yr adeg hynny roedd rhywun mewn swydd am oes yn doedd, doedd 'na ffasiwn beth â gweithio'n hyblyg.

Roedd yna ddewis i ni arafu neu stopio am gyfnod neu hyd yn oed rhoi'r gora' iddi yn gyfan gwbwl, ond roedd 'na rwbath yn ddwfn yn deud "na, achos dwi isio gwybod be' sy' am ddigwydd nesa."

Yn nes ymlaen, gawson ni sgwrs hir a'r penderfyniad yn cael ei wneud fod John am fod yn gyfrifol am y 'swyddfa' yn nhermau dyddiadur gigs ac yn y blaen a minnau i gario ymlaen i weithio - neu ar y pryd i drio ffitio gwaith rownd y dyddiadur.

John: Mi fues i yn byw ar y canu am rai blynyddoedd ar ôl yr albwm cynta' - o 1997 hyd at 2005.

Hwn oedd cyfnod cyfresi teledu ac ati, a chyflwyno ein rhaglen ar Radio Cymru bob nos Sul. Roedd fy amser i'n mynd i drefnu gigs, sgwennu, cyfansoddi ac ati.

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd John - ac Alun - eu derbyn i'r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddwy flynedd yn ôl

Pa mor brysur ydy John ac Alun heddiw?

Alun: Yn nhermau prysurdeb gigs a rasio o gwmpas, mae wedi distewi gryn dipyn erbyn heddiw. Wel mae wedi dod yn stop llwyr dros y 12 mis diwetha 'ma oherwydd Covid.

Erbyn heddiw, a finnau bellach wedi ymddeol ac yn daid i chwech o wyrion ac wyresau, dwi'n hoffi fel John, ychydig bach mwy o amser i mi fy hun, ond mae'r canu, cyfansoddi a'r perfformio yn dal i redeg yn ddwfn yn ein gwythiennau.

Bellach dwi'n mwynhau bod ar lwyfan yn llawer mwy am be' ydi o - y perfformio yn hytrach na'r sylw a ballu. Ond myn diawl, dwi wedi sylweddoli yn y flwyddyn ola' yma faint dwi'n colli o'r elfen gymdeithasol o'r peth hefyd, cael peint a sgwrs hefo hwn a llall, panad a cacan gefn llwyfan ar ôl cyngerdd... colli hynny go iawn.

Erbyn heddiw dwi hefyd yn mwynhau mwy ar y broses o gyfansoddi, nid er mwyn gorfod cyfarfod rhyw amserlen yn nhermau albwm neu gyfres deledu, ond y broses o gyfansoddi cân sy'n golygu rhywbeth, yn ddarn ohona i, yn fwy personol i mi rhywsut.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun yn dweud ei fod wedi defnyddio'r cyfnod clo i arbrofi a dysgu yn ei stiwdio fach gartref

Gan fod gen i dipyn mwy o amser 'sbâr' ar gael - yn awyddus i gynnig unrhyw help llaw alla i ei gynnig i artistiaid a chyfansoddwyr ifanc i wneud demos ac yn y blaen. Rhywbryd fydd yn rhaid rhoi'r gorau i fod ar lwyfan fel John ac Alun, ond dwi ddim yn meddwl y medra i roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl.

John: Dwi 'di sôn o'r blaen am orffen, ma' hi'n anodd dweud na tydi. Dwi dros fy 60 erbyn hyn, pensiwn flwyddyn nesa', falle ryw flwyddyn neu ddwy eto cyn hongian y gitâr am y tro ola', gwneud lle i'r to fengach!

Ma'n neis gweld wyneba newydd hefyd ar y sîn ganu gwlad/canol ffordd, ma' eu hangen arnom yma yng Nghymru. Mae'r sîn Gymraeg yn dal i gryfhau diolch am hynny, gynnoch chi gymysgfa dda dyddia' yma o bop, gwerin, roc a gwlad!

Mae gwneud bywoliaeth o gigio heddiw yn anoddach o lawer na pan oedda ni yn dechra', ma'r breindaliadau, PRS, PPL MCPS wedi mynd i ddim bron.

Dwi'm yn gweld pwynt recordio stwff newydd ar hyn o bryd, does unman i fynd i werthu CDs nac i berfformio, achos mewn gigs 'da chi'n gwerthu de.

Ffynhonnell y llun, Sain

Mae'r pandemig wedi effeithio'r byd cerddoriaeth byw - ydych chi'n poeni am yr effaith hir-dymor ar gerddoriaeth Cymraeg?

John: Mi fydd yn anodd ail-gychwyn dwi'n meddwl, pryd bynnag y bydd hynny.

Ma' gen i bechod dros bawb sydd wedi colli allan ers blwyddyn bellach oherwydd y pandemig, gan fawr obeithio y bydd petha' yn gwella i'r holl actorion, bandiau, artistiaid sydd wedi colli gwaith. Daw haul ar fryn!

Fasa'n neis 'neud gig fawr ar ôl i hyn gyd fynd trosodd a rhoi'r elw i'r NHS. Dowch, mae 'na ddigon ohono' ni fasa'n cymryd rhan!

Alun: Yn sicr mi fydd hi'n anodd i ganu byw godi yn ôl ar ei draed yn dilyn y pandemig yma, ac yn sgil hynny gwerthiant albyms, cyfle i recordio ac yn y blaen.

Yn arbennig y gigs mewn tafarndai, clybiau a theatrau bychain. Iawn, falla gawn ni 'ddigwyddiadau' neu 'wyliau' mawrion ond a ydi hynny'n cynnig cyfle i bawb - dwi ddim yn siŵr. Mi roedd hi ddigon anodd i fandiau ac artistiaid ifanc cyn i hyn ddigwydd, mi fydd hi'n anoddach fyth rŵan.

Ond mae cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd ac mae ganddo ni draddodiad o fagu talent yng Nghymru - cyn lleied y cyfleoedd a chyn lleied yr opsiwn i wneud hynny yn broffesiynol - ond dwi'n grediniol y gwnawn ni weld cerddoriaeth unwaith eto yn fyw ac yn iach ar lwyfannau ar draws Cymru.

Falla fod wir angen gwneud rhywbeth chwyldroadol i gael y sîn gerddorol yn ôl ar ei thraed... hynny ar bob lefel, dim yn unig yr artist, ond y lleoliadau, fel y theatrau bach efo'u technegwyr, hogia' sain a goleuo, sydd wedi cael blwyddyn a mwy o ddim byd... o leia' i'r artistiaid mae yna rywfaint o gyfleoedd yn dod trwy radio, cyfryngau cymdeithasol ac ambell i gyfle o raglen deledu.

Os nad yw'r elfen yma yn ei ôl, ac yn fuan, mi fydd cyfleoedd i gigio a threfnu cyngherddau yn llawer anoddach.

Dwi'n meddwl y dylid cychwyn yn y grass roots a gofyn i artistiaid ifanc be' ydy'r ateb a mynd o fan'no a llunio rhyw fath o strategaeth gynhwysfawr sydd yn cwmpasu'r holl gyfryngau, ac yn arbennig felly gigio byw.

Os fedra i helpu, jyst gofyn sydd angen.

Hefyd o ddiddordeb: