Diarddel gweithiwr gofal wnaeth ymosod ar yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Nerys WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Nerys Williams yn euog i dri chyhuddiad o ymosod ym Mehefin

Mae gweithiwr gofal o Wynedd gafodd ei charcharu am ymosod ar dri heddwas yn ystod parti yn ystod y cyfnod clo'r llynedd wedi cael ei diarddel rhag gweithio yn y maes gofal.

Ni wnaeth Nerys Williams, 33, o Fethesda ymddangos o flaen pwyllgor Panel Ffitrwydd i Ymarfer, Gofal Cymdeithasol Cymru.

Clywodd y panel fod Nerys Williams, oedd yn feddw ar y pryd, wedi taro un swyddog o'r heddlu, cicio un arall a brathu'r trydydd.

Cafodd ei charcharu am 12 mis Mehefin ym mis Mehefin.

Ar ôl ei dedfrydu cafodd y sac gan ei chyflogwyr Cartrefi Cymru.

Dywedodd Delme Griffiths wrth y panel Ffitrwydd i Ymarfer nad oedd ganddo unrhyw hyder na fyddai'r un fath o beth yn digwydd eto.

"Mae ei hymddygiad yn codi cwestiwn pa mor addas ydi hi waith yn y maes gofal. "

Penderfynodd y panel i dynnu ei henw o'r rhestr gweithwyr gofal.

Fe fydd ganddi 28 diwrnod i apelio yn derbyn y penderfyniad.