Meddygfa yn ymddiheuro am lythyr 'peidiwch adfywio'

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa LlynfiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd swyddogion nad oedd y llythyr wedi cael ei argymell gan y bwrdd iechyd

Mae meddygfa ym Maesteg wedi ymddiheuro ar ôl anfon llythyr at gleifion gyda salwch angheuol oedd yn gofyn iddynt gwblhau ffurflen i "beidio adfywio".

Roedd y llythyr o feddygfa Llynfi yn gofyn i gleifion arwyddo'r ffurflen fyddai'n golygu na fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys fynychu pe bai eu cyflwr yn gwaethygu o ganlyniad i coronafeirws.

"Ni fyddwn yn eich gadael chi... ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur a realistig," meddai'r llythyr.

Yn ôl papur newydd y Guardian mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am y cynnwys.

'Peidio galw 999'

Mae'r llythyr yn dweud "mewn sefyllfa ddelfrydol" y byddai meddygon wedi cael y drafodaeth wyneb yn wyneb, ond bod rhaid ysgrifennu'r llythyr oherwydd y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws.

Yn ôl y llythyr byddai sawl mantais o lofnodi'r ddogfen.

"Byddai eich meddyg teulu ac yn bwysicach eich ffrindiau a'ch teulu yn gwybod i beidio galw 999," meddai.

"Bydd adnoddau ambiwlans prin yn gallu cael eu targedu i'r ifanc a'r iach sydd â chyfle gwell."

Mewn datganiad fe wnaeth bwrdd iechyd Cwm Taf ddweud nad oeddynt wedi argymell cyngor o'r fath.

"Mae'r feddygfa yn gwybod hyn, ac maen nhw'n ymwybodol fod y llythyr wedi achosi loes i'r sawl wnaeth ei dderbyn.

"Nid dyma eu bwriad ac maen nhw wedi ymddiheuro am unrhyw loes sydd wedi ei achosi.

"Mae staff y feddygfa yn siarad yn uniongyrchol â'r cleifion dan sylw i ymddiheuro ac i ateb unrhyw bryderon sy'n codi."

Dywedogdd AS Ogwr, Chris Elmore, ei fod yn bryderus iawn am gynnwys y llythyr a'r loes a phryder yr oedd wedi ei achosi.

'Cywilyddus ac annerbyniol'

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots bod y llythyr wedi achosi "pryder sylweddol" i gleifion bregus.

"Rwy'n siŵr y byddai nifer o'r rheiny wnaeth dderbyn y llythyr wedi teimlo'n ddiwerth, bod eu bywydau ddim yn cyfrif a bod pwysau sylweddol arnyn nhw i arwyddo ffurflen peidiwch adfywio," meddai.

"Mae hyn yn gywilyddus ac yn annerbyniol.

"Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd a phoenus yn yr wythnosau i ddod, ond mae'n rhaid i'r rhain gael eu gwneud ar sail pob achos unigol, trwy sgyrsiau rhwng cleifion, doctoriaid a'u teuluoedd."