Ymgyrch i achub hen gapel Tom Nefyn ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Capel
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr y capel wedi dirywio dros y blynyddoedd

Mae ymgyrch wedi'i lansio ar y we i godi o leiaf £120,000 i brynu Capel Bethania ym mhentre' Pistyll ym Mhen Llŷn a'i droi yn ganolfan gymunedol.

Mae'r capel yn adnabyddus oherwydd ei gysylltiadau gyda'r Parchedig Tom Nefyn, dolen allanol a fu'n mynychu'r capel yn blentyn.

Gan ei fod wedi cau ers blynyddoedd mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio.

Mae 'na ganiatâd cynllunio wedi'i roi i droi'r hen gapel yn gartref gwyliau.

Disgrifiad o’r llun,

Osian Jones: 'Mae'n anfoesol ei droi yn gartref gwyliau'

Yr ymgyrchydd iaith Osian Jones sydd wedi dechrau'r ymgyrch i godi arian.

"Roedd Tom Nefyn yn ffigwr," meddai, "nid yn unig yn ffigwr pwysig yn yr ardal yma ym Mhen Llŷn ond hefyd mi oedd yn ffigwr pwysig yng Nghymru gyfan.

"Mi oedd o'n fachgen ifanc o gefndir digon cyffredin a mi aeth o 'mlaen ar ôl y rhyfel i fod yn weinidog efo'r Presbyteriaid.

"Ac mi fuodd o'n ymladd ar hyd ei fywyd ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, hawliau gweithwyr, hawliau i'r Gymraeg ac yn bwysicach na dim, yn y cyd-destun yma, hawliau i bobl gael cartrefi glân a saff."

Yn ôl Osian Jones byddai'n "anfoesol" pe byddai'r hen gapel yn cael ei droi yn gartref gwyliau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Thomas ymhlith y rhai sydd am weld y capel yn troi'n ganolfan gymunedol

Mae Anwen Thomas yn byw gerllaw ac mae'r capel yn agos iawn at ei chalon.

Ei gobaith ydy y bydd modd prynu'r adeilad a'i droi yn ganolfan gymunedol.

"Mae'r capel yn adeilad efo gymaint o bwys yn hanes cenedlaethol Cymru efo Tom Nefyn Williams, sydd wedi ysbrydoli miloedd ar filoedd o bobl.

"Cafodd yr adeilad ei adeiladu gan ein cyn-dadau o bocedi eu hunain, wedi ymdrech mor galed, 'da ni'n gobeithio 'sa'r adeilad yn gallu mynd yn ôl i fod yn hwb i'r gymuned fel canolfan gymunedol."

Ffynhonnell y llun, Harri Parri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom Nefyn yn mynychu'r capel pan yn blentyn

Mae perchnogion y capel wedi cytuno i ohirio cynnal ocsiwn i'w werthu tan 19 Mai er mwyn rhoi cyfle i bobl leol hel arian.

O fewn ychydig ddyddiau mae dros £10,000 eisoes wedi ei gasglu, ac mae'r ymgyrchwyr yn ffyddiog fod hyn yn arwydd amlwg fod 'na gefnogaeth i'r syniad o greu canolfan gymunedol a lle i gofio am Tom Nefyn.

Pynciau cysylltiedig