Dechrau gwaith atgyweirio capel coffa Capel Celyn
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos hon i atgyweirio a diogelu Capel Coffa Capel Celyn.
Mae'r capel, sy'n gofeb i'r weithred o foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala ym 1965, wedi bod yn disgyn yn deilchion ers rhai blynyddoedd.
Yn ôl un ymgyrchydd lleol mae'r capel o bwysigrwydd cenedlaethol ac mae'r newyddion i'w groesawu.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru, sy'n gyfrifol am gadwraeth y safle, mai dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw welliannau mawr ddigwydd yno.
Pan godwyd y capel ym 1965 fe gafodd nifer o gerrig y capel gwreiddiol eu defnyddio.
Bron i 55 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r elfennau wedi achosi difrod i'r safle, gyda thyllau yn y to yn arwain at ddŵr yn disgyn tu mewn.
Gyda'r capel bellach wedi ei gofrestru y llynedd fel safle statws Gradd II gan Cadw, mae 'na obaith y bydd y gwelliannau'n rhoi'r cyfle i ragor ddysgu am hanes boddi'r pentref.
Naw oed oedd Eurgain Prysor pan adawodd hi ei thyddyn yng Nghapel Celyn, cyn iddo ddiflannu dan y dŵr.
"Dwi'n teimlo yn falch iawn, deud y gwir," meddai.
"Dwi wedi bod yn cwrdd â chymdeithasau a phlant ysgol yma... o fynd i mewn i'r lle mi oedd gennai gywilydd gan fod nhw'n gwaredu at y stad sydd arno fo.
"Mae o'n welliant mawr, dwi'n teimlo."
Mae Ms Prysor yn un sydd wedi gwahodd nifer o ysgolion lleol i'r safle ac mae hi'n ceisio eu haddysgu am yr hyn ddigwyddodd a'r pwysigrwydd hanesyddol ynghlwm.
Ei gobaith yw y bydd y gwaith yn diogelu'r hanesion am ddegawdau.
"Mae o'n rhan o'n hanes ni," meddai.
"Dwi'n teimlo dylai pawb fod yn falch o'i hanes beth bynnag oedd o, a hefyd dyma'r unig beth sydd gynom ni i gofnodi hanes neu gynrychioli Capel Celyn yn cael ei foddi."
Ers rhai blynyddoedd, Dŵr Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y safle a'r gronfa ddŵr gerllaw.
"'Dan ni wedi bod yn gwneud ychydig o waith cynnal a chadw, ond dyma'r tro cyntaf i ni wneud gwaith cadwraeth ar y capel," meddai Gwennan Davies, rheolwr cymunedau Dŵr Cymru.
"Y bwriad ydy gwneud yn siŵr bod y capel yn adeilad sydd ar gael ar gyfer degawdau i ddod i'r cymunedau a Chymru."
"'Dan ni'n ymwybodol iawn o ba mor bwysig ydy o yn hanesyddol."
Y gobaith yw y bydd y gwaith wedi ei orffen erbyn Tachwedd 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015