'Blynyddoedd o fethiant' i fynd i'r afael â hiliaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dwylo'n cynrychioli hiliau gwahanolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu â mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yng Nghymru, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna nad yw cyfreithiau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl wedi cael eu gweithredu.

Mae'r academydd ym Mhrifysgol Caerdydd bellach yn ymwneud â datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wrth i un elusen weld cynnydd yn y niferoedd sy'n ceisio cefnogaeth ar ôl profi gwahaniaethu ar sail hil a throseddau casineb.

Mae dirprwy weinidog a phrif chwip Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod diffyg gweithredu wedi bod hyd yma.

Dywedodd Race Equality First eu bod yn llunio adroddiad i'r Cenhedloedd Unedig, a'u bod yn edrych ar gynnydd Cymru o ran dileu gwahaniaethu ar sail hil.

Dywedodd Roon Adam, o'r elusen, fod marwolaeth George Floyd yn America y llynedd wedi newid pethau, gan annog eraill i godi problemau a mynnu bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

"Mae'r cymunedau yma wedi bod yng Nghymru ers 50, 60, neu 100 mlynedd," meddai.

"Roedd y problemau maen nhw'n eu hwynebu nawr fwy neu lai yn bodoli bryd hynny. Mae'n genhedlaeth wahanol nawr ond mae'r un broblem ac nid yw'n cael ei datrys."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna nad yw cyfreithiau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl wedi cael eu gweithredu

Mae adroddiad diweddar yr Athro Ogbonna ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n edrych ar effaith Covid ar gymunedau BAME, yn dweud y gallai hiliaeth sefydliadol systemig fod wedi chwarae rhan.

"Mae'r her sydd o'n blaenau yn enfawr," meddai. "Nid yw llywodraethau olynol wedi cymryd unrhyw gamau ar hil."

Ond mae'n dadlau fod angen i unrhyw gynllun gweithredu yn y dyfodol gael ei ategu gan y gyfraith - er ei fod yn cydnabod bod cyfreithiau presennol wedi methu â gwneud y newid angenrheidiol.

"Mae pobl yn parhau i ddioddef gwahaniaethu hiliol ac ethnig", meddai, "(a'r) rheswm yw bod sefydliadau a sefydliadau wedi methu â gweithredu'r cyfreithiau - a does neb wedi gofyn cwestiynau.

"Does neb wedi gofyn pam. Fel rhan o'r cynllun gweithredu hwn, rydym yn bwriadu dwyn sefydliadau a Llywodraeth Cymru i gyfrif."

'Ffordd bell i fynd'

"Mae gan Gymru ffordd bell i fynd o hyd," meddai Ms Adam o Race Equality First.

Eglurodd fod yr elusen wedi gweithio yn y maes hwn yng Nghymru ers 45 mlynedd.

O fwlio hiliol yn "realiti bob dydd i blant BME", i ofal iechyd, tai, cyflogaeth a phroffilio hiliol, "rydych chi'n ei enwi, rydyn ni'n delio â'r cyfan", meddai.

Dywedodd Ms Adam fod y materion yn effeithio ar bob rhan o fywydau pobl, gan adael llawer yn teimlo'n ynysig, yn fach iawn neu hyd yn oed yn teimlo fel eu bod eisiau lladd eu hun.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gan Gymru ffordd bell i fynd o hyd," meddai Roon Adam

"Y llynedd cawsom bron i 200 o achosion, ond mae nifer yr ymholiadau yn llawer mwy," meddai.

"Mewn llawer o achosion, nid yw pobl yn bwrw ymlaen ag ef - nid oes ganddyn nhw ymddiriedaeth yn y system gyfiawnder, maent yn teimlo nad oes diben."

Dywedodd dros y flwyddyn ddiwethaf eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y galwadau am gymorth, yn ogystal â hyfforddiant gwrth-wahaniaethu a hiliaeth i sefydliadau.

"Roedd llawer o bobl a sefydliadau'n deall nad yw'n ddigon 'peidio â bod yn hiliol' ond bod yn rhaid i chi fod yn 'weithredol wrth-hiliol'", meddai.

'Cydnabod anghydraddoldeb'

Mae Jane Hutt, y dirprwy weinidog a'r prif chwip, yn cydnabod nad yw'r camau a gymerwyd hyd yma wedi bod yn ddigon.

"Rydym wedi cydnabod bod anghydraddoldeb strwythurol yn y ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflawni ein polisïau a'n gwasanaethau - mae hiliaeth sefydliadol yn deillio o hynny," meddai.

"Mae'n ymwneud â newid ymddygiad sylfaenol a'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn blaenoriaethu ein gwasanaethau, ac mae hynny'n cynnwys cyllidebau.

"Mae'n golygu y dylai popeth fynd drwy lens 'beth mae hyn yn mynd i'w wneud i fynd i'r afael â gwahaniaethau hiliol?'

Ychwanegodd, yn ogystal â rhoi cyfrifoldeb ar bob lefel o lywodraeth, yn breifat, yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, fod yn rhaid i bleidiau gwleidyddol hefyd newid a dangos gwell amrywiaeth.

"Nid yw hyn yn mynd i ddigwydd dros nos, ond rwy'n credu bod ymrwymiad yno mai dyma un o'r pethau pwysicaf i Gymru wrth symud ymlaen" meddai Ms Hutt.

"Rydyn ni eisiau bod yn Gymru wrth-hiliol."

Ffynhonnell y llun, Barcroft Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o bobl ynghyd ar gyfer rali Bywydau Du o Bwys yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2020

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder a chydraddoldeb, Leanne Wood AS bod hiliaeth "wedi bod yn gyffredin yng Nghymru ers peth amser" a bod y pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau ar gymunedau BAME.

Ychwanegodd y dylai'r adroddiad fod wedi "deffro Llywodraeth Cymru o'r diwedd am yr angen i weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yng Nghymru".

"Fe wnaeth Plaid alw yr haf diwethaf am ymchwiliad trylwyr i hiliaeth systemig yng Nghymru a gweithredu ar yr argymhellion, ac rydyn ni wedi arwain amryw o ddadleuon yn y Senedd yn galw am wneud hanes pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig eraill yn orfodol yn y cwricwlwm newydd," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds bod "dim lle yng Nghymru i wahaniaethu o unrhyw fath, a thra bod gwaith wedi'i wneud, mae angen gwneud mwy".

"Mae angen i bawb o fewn cymdeithas i gydweithio er mwyn dileu'r gwahaniaethu sy'n bodoli yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr nad oedden nhw'n synnu nad yw "cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran polisiau atal anffafriaeth heb eu gweithredu'n iawn".

Ychwanegodd bod hynny'n "un arall ar y rhestr hir o feysydd ble mae'r llywodraeth Lafur yma wedi methu".

Dywedodd y llefarydd bod y blaid yn falch bod yr Athro Ogbonna'n parhau i weithio ar gynllun gweithredu, a bod y Ceidwadwyr yn "edrych ymlaen at drafodaethau gydag o yn y dyfodol ar sut i daclo'r broblem o hiliaeth ac anffafriaeth sydd yn anffodus yn parhau yng Nghymru".