'Negeseuon ffug yn atal pobl BAME rhag cael brechlyn Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyn yn cael brechlyn Covid-19 yn Stratford ddydd Mawrth

Mae yna bryderon y bydd rhai o fewn y gymuned BAME yn dewis peidio cael brechlyn Covid-19, yn ôl Cyngor Hil Cymru.

Lledaeniad gwybodaeth ffug ar-lein yw'r prif reswm am hyn yn, meddai'r cyngor.

Maen nhw'n galw am neges gan Lywodraeth Cymru i dawelu ofnau.

Mae'r gwaith o frechu'r mwyaf bregus yn ein cymdeithas eisoes wedi dechrau, gyda'r cartref gofal cyntaf yng Nghymru yn derbyn y brechlyn ddydd Mercher.

Ond mae 'na bryderon y bydd rhai pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn penderfynu peidio cael eu brechu, yn ôl Natalie Jones o Gyngor Hil Cymru.

"Dwi'n meddwl bod rhai pobl ofn y byddan nhw'n cael eu trin fel guinea pigs mewn ffordd, ac nad yw'r llywodraeth yn gwybod be' fydd yr effaith ar bawb," meddai.

"Felly mae angen 'neud gwaith i esbonio i bawb pam bod hwn yn saff i ni i gymryd a sut ma' nhw'n gallu cadarnhau ei fod e.

"Yr eironi yw bod 'na grŵp o bobl sydd angen hwn yn fwy na neb arall mewn ffordd a ma' rhai yn ofn.

"Dwi'n meddwl bod angen rhagor o waith gan y llywodraeth sydd wedi cael ei dargedu at bobl BAME i esbonio sut a pam bod hwn yn saff iddyn nhw."

'Siomedig'

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig wedi eu heffeithio'n anghyfartal gan y feirws.

Awgrymodd astudiaeth ddiweddar o 18 miliwn o bobl bod pobl ddu ddwywaith yn fwy tebygol o ddal coronafeirws na phobl wyn.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod pobl Asiaidd 1.5 gwaith yn fwy tebygol o gael eu heintio na phobl wyn - ac yn fwy tebygol o fod angen gofal dwys.

Mae'r ffaith bod pobl o'r cefndiroedd yma'n ystyried peidio cymryd y brechlyn yn rheswm i boeni, yn ôl y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

"Dwi'n siomedig i glywed bod ymgyrch o wybodaeth ffug yn mynd i atal pobl o bosib rhag cael yr amddiffyniad ma'r brechlyn yn ei gynnig, yn enwedig ein cymunedau Du ac Asiaidd sydd wedi eu heffeithio'n anghyfartal," meddai.

"Dwi'n hapus i weithio gyda Chyngor Hil Cymru i ddeall be allwn ni ei wneud i ddelio â hynny, a pwy yw'r person neu grwpiau gorau i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething: Hapus i gydweithio gyda Chyngor Hil Cymru

Gwybodaeth ffug yw un o'r prif resymau sy'n cael ei roi i Gyngor Hil Cymru dros beidio â chymryd y brechlyn.

Mae 'na bryderon y gallai'r broblem waethygu os nad oes camau yn cael eu cymryd yn gyflym ac yn effeithiol, yn ôl Owen Williams o gwmni cyfryngau cymdeithasol Siml.

"Ry'n ni mewn sefyllfa unigryw ar hyn o bryd achos bod gyda ni'r platfformau sydd yn gallu lledaenu neges yn fyd-eang mewn chwinciad," meddai.

"Mae gen ti bobl sydd yn barod i ddweud bod y pethau yma yn digwydd er nad y'n nhw'n ffeithiol gywir.

"Ma' 'da ti'r llywodraeth a'n cyfryngau ni sydd ar lawr ar hyn o bryd a wedyn mae gen ti'r pandemig yma.

"Ma' 'da ti'r storm berffaith o sefyllfaoedd. Ma' gwybodaeth ffug am y brechlyn yn creu niwed a ma' rhaid i blatfformau megis Facebook, sydd â triliynau o bunnau, cael gafael ar y wybodaeth yma a cael gwared ohono fe."

Beth oedd gan Facebook a Twitter i'w ddweud?

Dywedodd llefarydd ar ran Facebook eu bod nhw'n "cael gwared ar wybodaeth ffug ynglŷn â Covid-19 a allai arwain at niwed corfforol, gan gynnwys gwybodaeth ffug am frechlynnau sydd wedi eu cymeradwyo".

Rhwng mis Mawrth a mis Hydref maen nhw'n dweud iddyn nhw gael gwared as 12 miliwn darn o wybodaeth tebyg i hyn oddi ar Facebook ac Instagram - a'u bod nhw hefyd wedi gwahardd unrhyw hysbysebion sy'n cynnwys twyll am y brechlyn, neu sy'n annog pobl i beidio cael eu brechu.

Dywed Twitter eu bod nhw'n adnabod y rôl mae'r gwasanaeth yn ei chwarae wrth wasgaru gwybodaeth credadwy ar iechyd cyhoeddus, ond eu bod yn dal i weithio ar eu polisïau a'u cynlluniau.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cael gwared ar filoedd o negeseuon ers mis Mawrth.