'Mae'r pandemig yn golygu bo fi'n cael fy nghynnwys'
- Cyhoeddwyd
"Yn ystod yr wythnos ddiwetha' 'ma dwi wedi bod allan bob nos," medd Siân Eleri Roberts o Drefor.
"Dwi wedi mwynhau noson yng nghwmni Gwenan Gibbard, dwi wedi bod mewn dwy ddarlith, parti pen-blwydd gyda hen ffrindiau, oedfa, noson byw'n iach Merched y Wawr, seminar ar gynghanedd a noson Cymdeithas Chwilog, a'r cyfan yn fy slipars."
Oddeutu chwe mlynedd yn ôl cafodd Siân wybod bod ganddi'r cyflwr MS - cyflwr sy'n ymosod ar y brif system nerfol ac sy'n golygu ei bod hi bellach yn ddibynnol ar gadair olwyn.
Iddi hi a nifer eraill mae'r cyfnod clo wedi dod â nifer o brofiadau positif.
'Cael fy nghynnwys'
"Mae nifer wedi bod yn methu mynd i ddigwyddiadau oherwydd henaint, afiechydon hirdymor, salwch, anableddau, problemau iechyd meddwl, cyfrifoldebau, gofalu, swildod neu brysurdeb," meddai.
"Ond wrth i eglwysi a chymdeithasau orfod cynnal digwyddiadau rhithwir - dwi ac eraill sydd â chysylltiad â'r we wedi fy nghynnwys ac wedi cael mwynhau a chyfrannu. Does dim rhaid poeni a oes ramp a thoiledau anabl yn fan hyn a fan draw a dwi wedi cael bod yn rhan o bethau.
"Mae modd i fi bellach fel person anabl fwynhau yr un digwyddiadau â phawb arall - mwy nag erioed o'r blaen wrth i ddigwyddiadau ar draws Cymru fod ar gael i bawb.
"Y cwestiwn mawr yw beth fydd yn digwydd pan ddaw'r cyfyngiadau i ben a phan bydd gan y rhan fwyaf o bobl ryddid i fynd yn ôl i'r capel ac i weithgareddau eraill fel o'r blaen? Ydi pobl anabl ac eraill sy'n methu mynd i oedfaon a digwyddiadau yn mynd i gael eu hanwybyddu a'u hanghofio eto?
"Byddai wir yn drueni pe baem yn mynd yn ôl i fywyd 'fel o'r blaen' gan anghofio am gyfran sylweddol o'r bobl sy'n dymuno mynd i ddigwyddiadau ond yn methu.
"Yr her i gymdeithasau, eglwysi fydd darparu ar gyfer pawb sy'n awyddus i fod yn rhan o'u digwyddiadau - gobeithio y byddant yn elwa ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig."
'Allwn ni ddim mynd yn ôl'
Dywed Beti Wyn James, darpar lywydd Undeb Annibynwyr Cymru, bod y pandemig wedi chwyddo nifer y gynulleidfa ac wedi agor drysau newydd.
"Bydd rhaid i eglwysi addasu ar gyfer y dyfodol," meddai wrth siarad â BBC Cymru Fyw.
"Mae'n anhygoel faint sydd wedi bod yn edrych ar oedfaon - gan amlaf dros 700 ac weithiau mae e dros fil.
"Rhyw 90 fyddai fel arfer yn dod i'r capel ond mae'r pandemig wedi ein gorfodi i newid ein ffyrdd o gyfathrebu - wrth gwrs mae rhywun yn colli cysylltiad gweld pobl ond allwn ni ddim mynd yn ôl i'n hen ffyrdd rhagor.
"Bydd rhaid sicrhau bod modd i'n cynulleidfa newydd aros gyda ni. Beth ddigwyddith siŵr o fod yw cynnal oedfa yn y capel ond bod honno hefyd yn cael ei darlledu ar y we. Ni newydd roi'r we mewn yn ein capel ni wythnos diwetha'.
"Mae rhai o'n ffrindiau digidol newydd wedi dweud y byddan nhw'n dod i'r capel ac mae pob croeso i bawb ond 'dyw pawb ddim yn gallu neu ddim am ddod - bydd rhaid peidio colli y rhai hynny.
"Peth arall da sydd wedi dod o'r pandemig yw bod nifer ohonom wedi gorfod dysgu sgiliau digidol newydd."
"Dwi innau hefyd yn credu bod yna fudd wedi dod o'r cyfnod clo," medd Sara Jones o elusen Sustrans Cymru.
"Does gennym ddim data ond yn sicr mae pobl wedi darganfod cerdded a llwybrau newydd - mae lot mwy o bobl ar feics ac mae yna lot llai o geir o gwmpas.
"Wrth gwrs mae wedi bod yn gyfnod ofnadwy i nifer - ond allwn ni ddim anghofio bod rhai pethau wedi digwydd er gwell," ychwanegodd.'Mae'r pandemig yn golygu bo fi'n cael fy nghynnwys'
"Yn sicr mae 'na fendithion wedi bod," ychwanegodd Siân Eleri Roberts, "ond gobeithio'n wir y bydd fy mywyd cymdeithasol yn parhau ac na fyddai i a'm tebyg yn mynd yn angof yn y normal newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021