Addasu arholiadau allanol 2022 oherwydd y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgyblion Ysgol Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau dan drefn anarferol yn ystod mis Awst 2020

Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd arholiadau allanol disgyblion yn 2022 yn cael eu haddasu er mwyn cydnabod effaith y pandemig ar addysg myfyrwyr.

Bydd CBAC yn ymgynghori ag athrawon a darlithwyr ym mis Ebrill cyn cyhoeddi'r manylion.

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Bwriad y cyhoeddiad yw rhoi sicrwydd i athrawon a darlithwyr, a dysgwyr sydd ym Mlynyddoedd 10 a 12 ar hyn o bryd.

"Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch llwybr y pandemig, rydym yn ymwybodol iawn bod angen i ysgolion a cholegau gynllunio ar gyfer eu dysgwyr - mae'r penderfyniad i addasu cymwysterau yn golygu y gallant fod yn glir ynghylch yr hyn sydd angen i ddysgwyr ei gwmpasu wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol neu'r coleg.

"Rydym yn parhau i fod yn obeithiol y gall arholiadau fynd rhagddynt yr haf nesaf ar gyfer y cymwysterau addasedig hyn, ond byddwn yn monitro'r sefyllfa wrth iddo esblygu ac mae gennym gynlluniau amgen ar gyfer asesu yn barod i'w gweithredu os oes cyfnodau sylweddol o darfu," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd CBAC yn nodi os oes angen trafodaeth bellach ar ganlyniadau

O ran graddau 2021 mae Cymwysterau Cymru yn nodi bod disgwyl i bob ysgol a choleg gyflwyno sail resymegol i esbonio eu patrwm cyffredinol o ganlyniadau a bydd CBAC yn nodi'r rhai lle mae angen trafodaeth bellach.

Fydd CBAC ddim yn newid canlyniadau gan eu bod eleni'n dibynnu'n llwyr ar arfer barn broffesiynol o fewn ysgolion a cholegau.

Ond gallant ofyn i ganolfannau ailedrych ar y graddau dros dro os na ellir cyfiawnhau patrwm y canlyniadau gan y rhesymeg a gyflwynir.

Ddechrau'r mis dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd disgyblion Safon Uwch a TGAU yng Nghymru yn cael gwybod eu graddau dros dro gan athrawon ym mis Mehefin, cyn i'r canlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi fis Awst.

'Diogelu hygrededd canlyniadau'

Ychwanegodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: "Fel yr amlinellir yng nghyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru, bydd proffiliau graddau ysgolion a cholegau yn cael eu hadolygu, a bydd unrhyw broffiliau graddau annodweddiadol yn cael eu trafod gyda'r ysgolion a'r colegau.

"Y bwriad yw bod hyn yn rhoi hyder bod cam olaf i ddiogelu hygrededd canlyniadau drwy ddeialog broffesiynol.

"Mae hyn yn adeiladu ar rannau eraill o'r trefniadau sicrhau ansawdd sy'n ceisio sefydlu cysondeb yn y dulliau a ddefnyddir gan ysgolion a cholegau ledled Cymru yn haf 2021.

"Mae hefyd yn adlewyrchu adborth gan arweinwyr ysgolion a cholegau a oedd yn disgwyl proses debyg y llynedd ac a oedd yn croesawu'r cyfle hwn i egluro eu barn broffesiynol."

Pynciau cysylltiedig