Cymru yn teithio i Wlad Belg ar ddechrau ymgyrch Cwpan y Byd 2022

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Joe Allen yn y garfan am y tro cyntaf ers Tachwedd 2019

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn Leuven nos Fercher ar ddechrau ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022.

Mae'r gwrthwynebwyr ar frig restr detholion y byd, ac mae sawl enw cyfarwydd iawn yn nhîm y Belgiaid.

Mae ymosodwr Inter Milan, Romelu Lukaku, ar gael i'r tîm cartref ar ôl iddo gael prawf negyddol am Covid-19 yn dilyn clwstwr o achosion yn ei glwb yn Yr Eidal.

Ond ni fydd y chwaraewyr canol cae Eden Hazard ac Axel Witsel ar gael i'r rheolwr Roberto Martinez oherwydd anafiadau.

Mae carfan Cymru hefyd wedi colli enwau mawr, wedi i Aaron Ramsey dynnu'n ôl gydag anaf.

Fore Mawrth, daeth cadarnhad bod yr amddiffynwyr Ben Davies a Tom Lockyer, dolen allanol hefyd wedi gadael y garfan oherwydd anafiadau.

Ffynhonnell y llun, VIRGINIE LEFOUR
Disgrifiad o’r llun,

Mae Romelu Lukaku wedi sgorio mwy o goliau rhyngwladol (57) na garfan Cymru (56)

Ar ôl y gêm nos Fercher, bydd Cymru'n croesawu Mecsico mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Byddan nhw yna yn wynebu'r Weriniaeth Tsiec yn yr un lleoliad mewn gêm ragbrofol arall yng Nghwpan y Byd ddydd Mawrth, 30 Mawrth.

Belarws ac Estonia yw'r ddwy wlad arall sy'n sefyll rhwng Cymru a lle yn y rowndiau terfynol yn Qatar.

Robert Page fydd yng ngofal y tîm am y gemau yn erbyn Gwlad Belg, Mecsico a'r Weriniaeth Siec gyda chefnogaeth Albert Stuivenberg fel y digwyddodd yn y gemau ym mis Tachwedd y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts a Ryan Giggs yn ymarfer gyda Chymru ddydd Mawrth

Ym mis Tachwedd, roedd adroddiadau papur newydd yn dweud fod Ryan Giggs wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad.

Ar y pryd, dywedodd ei gynrychiolwyr fod Giggs yn gwadu pob honiad o ymosodiad a wnaed yn ei erbyn.

Fis diwethaf cafodd cyfnod mechnïaeth Ryan Giggs, mewn cysylltiad â honiad o ymosod, ei ymestyn.

Mae Cymru yn chwarae eu dwy gêm grŵp gyntaf yn Euro 2020 yr haf yma ym mhrifddinas Azerbaijan, Baku, gan agor eu hymgyrch yn erbyn y Swistir ddydd Sadwrn, 12 Mehefin ac yna wynebu Twrci bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Mae eu gêm grŵp olaf yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar 20 Mehefin.

Bydd modd gwrando ar Gwlad Belg v Cymru ar BBC Radio Cymru neu wylio ar S4C.