Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio merch, 16 yn Ynys-wen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch 16 oed mewn siop tŷ bwyta Chineaidd ei theulu yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Chun Xu wedi ei gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin a hefyd o geisio llofruddio dyn 38 oed yn ardal Ynys-wen, Treorci.
Ni wnaeth y dyn 31 oed ddatgan ei ble yn ystod y gwrandawiad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 20 Awst, gyda'r achos llawn i ddechrau ym mis Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2021