Nick Ramsay i sefyll fel ymgeisydd annibynnol ym Mynwy

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nick RamsayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nick Ramsay y bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol

Mae Nick Ramsay wedi gadael y Ceidwadwyr gan ddweud y bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol ym Mynwy yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Cafodd Mr Ramsay ei ddad-ddewis gan gangen leol ei blaid ar ôl cynrychioli'r etholaeth am 14 o flynyddoedd.

Dywedodd nad oedd yn hapus gyda chyfeiriad y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Gwnaed cais i'r Ceidwadwyr Cymreig am sylw.

Mewn datganiad dywedodd Mr Ramsay: "Rwyf heddiw wedi ymddiswyddo o'r Blaid Geidwadol Gymreig a'r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd.

"Rwyf yn gynyddol wedi fy nadrithio gydag agweddau o gyfeiriad y Blaid Geidwadol a'r symudiad i ffwrdd o dir canol gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig."

Ychwanegodd: "Fe allaf gadarnhau y byddaf yn ymladd yn etholiadau Mai ar blatfform annibynnol, platfform ar gyfer newid go iawn."

Fe wnaeth y berthynas rhwng Mr Ramsay a'r Gymdeithas Geidwadol leol yn Sir Fynwy waethygu yn 2020. Cafodd ei ddad-ddewis fel ymgeisydd ym mis Rhagfyr.

Costau cyfreithiol

Fe wnaeth Mr Ramsay geisio rhwystro'r aelodau rhag trafod y pwnc o'i ddisodli fel ymgeisydd gan fynd i'r llysoedd.

Ond penderfynodd beidio bwrw 'mlaen â'r achos.

Cafodd orchymyn i dalu costau cyfreithiol o £25,000.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth y Ceidwadwyr ym Mynwy enwebu Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, i gynrychioli'r Blaid Geidwadol yn yr etholiad.

Yn etholiad 2016 roedd gan Mr Ramsay fwyafrif o 5,147, gyda Llafur yn ail.

Mae'r ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Mynwy ar 6 Mai yn cynnwys:

  • Ceidwadwyr - Peter Fox

  • Y Blaid Werdd - Ian Chandler

  • Llafur - Catrin Maby

  • Democratiaid Rhyddfrydol - Jo Watkins

  • Plaid Cymru - Hugh Kocan