Ergyd arall i obeithion y Ceidwadwr Nick Ramsay
- Cyhoeddwyd

Nick Ramsay wedi cynrychioli Mynwy yn y Senedd ers 2007
Mae aelodau'r blaid Geidwadol ym Mynwy wedi dweud wrth yr AS Nick Ramsay nad ydynt am iddo sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau mis Mai.
Golygai'r penderfyniad nos Lun y bydd y gangen leol nawr yn dewis ymgeisydd newydd.
Roedd Mr Ramsay wedi bygwth camau cyfreithiol yn erbyn ei blaid leol am geisio ei ddad-ddethol cyn newid ei feddwl ym mis Tachwedd.
Fe wnaeth y barnwr yn yr Uchel Lys orchymyn Mr Ramsay i dalu costau cyfreithiol y gymdeithas leol - oedd tua £25,000.
Mae'r BBC wedi gofyn i Mr Ramsay am ymateb i'r penderfyniad nos Lun.
Fe fydd dal gan Mr Ramsay hawl i gystadlu i geisio cael ei enwebu fel ymgeisydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020