Ateb y Galw: Y cerddor Ifan Davies

  • Cyhoeddwyd
Ifan DaviesFfynhonnell y llun, Ifan James

Y cerddor Ifan Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan David R Williams yr wythnos diwethaf.

Ifan yw prif leisydd y band Sŵnami sydd wedi profi llawer o lwyddiant dros y blynyddoedd, fel ennill Brwydr y Bandiau yn 2011, a gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2016. Ar ôl saib, mae'r pumawd yn ôl gyda chaneuon newydd eleni.

Mae Ifan hefyd yn aelod o'r band Yr Eira ac i'w glywed yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'n anodd gwybod be' ydi'r atgof cyntaf dydi? Os 'na hen fideos neu lluniau dwi'n ei gofio go iawn neu ddim... ond mae gen i ryw go' o fynd i dŷ Nain a Taid a chael Tooty Frooties gan Taid o dan y bwrdd cyn swper.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adre, ardal Bro Dysynni.

Mae stopio'r car ar y daith nôl adre i Lanegryn i edrych allan dros y môr tuag at Bermo a Phen Llŷn yn neis ar ddiwrnod braf hefyd. Mae 'na le da i stopio'r car uwchben y môr cyn cyrraedd pentref Llwyngwril ar hyd ffordd yr arfordir rhwng Dolgellau a Llanegryn, lle bach da ar gyfer Insta stories...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nes i weiddi 'Helo Dinbych' tra'n chware gig hefo Sŵnami yng Ngŵyl Rhuthun unwaith... Ar ôl sylwi be' oedd newydd ddigwydd, mi nes i droi'n nghefn a phwyntio at Lewis, y drymiwr, i gychwyn y gân nesa'n syth!

Ffynhonnell y llun, Arabella Itani
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar, mae Sŵnami wedi rhyddhau'r sengl ddwbl Theatr/Uno, Cydio, Tanio

Beth yw dy hoff gân a pham?

Un o fy hoff lefydd i wrando ar tiwns ydi yn y car tra'n dreifio, ond gan bo' fi heb 'neud lot o hynny dros y misoedd diwethaf, dwi wedi bod yn gwrando ar lot o radio a rhestrau chwarae Spotify o amgylch y tŷ. Mae'n hoff gân yn newid yn ddyddiol, ond dwi wedi bod yn gwrando dipyn ar albym newydd The Staves yn ddiweddar, ac ma'r un newydd gan Anderson Paak a Bruno Mars yn dda dydi?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dydw i ddim yn berson sy'n crio'n aml iawn, ond y tro diwetha' oedd yn angladd fy ewythr ambell flwyddyn yn ôl.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Penelope Pitstop o Wacky Races.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dros y cyfnod clo dwi a 'nghariad 'di bod yn trio gwylio ffilm wahanol bob penwythnos. Dwi byth yn cofio pa ffilms dwi wedi'i wylio yn iawn, felly dwi 'di lawrlwytho ap IMDb ar fy ffôn i gadw cofnod o bob ffilm ac i'w sgorio allan o 10 (ydi, mae lockdown 'di neud fi'n un o'r bobl yna).

Y broblem ydi, mae bob ffilm yn cael marc o unai 7 neu 8 allan o 10 gen i, ond y goreuon o'r cyfnod clo hyd yma ydi Soul neu Parasite (8 allan o 10 i'r ddau).

Ffynhonnell y llun, Curzon
Disgrifiad o’r llun,

Parasite oedd enillydd yr Oscar am y ffilm orau yn 2020 - mae Ifan i'w weld yn cytuno gyda'r Academy am safon y ffilm...

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes sawl un, ond o bosib y gwaetha a'r un sy'n digwydd amla'... gosod larymau ar fy ffôn i fy atgoffa am rywbeth, a pwyso snooze ar y larwm drwy'r dydd er mwyn osgoi ei wneud o. Dwi'n gwybod, ma'n gyrru fi'n nyts hefyd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Indecisive.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Pawb draw am barti mawr yn yr ardd, cwcio pizza, ac o'r diwedd, agor y botel o jin drud ges i gan fy mrawd sawl Nadolig yn ôl sydd wastad yn cael ei chadw "at eto".

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n eitha obsessed hefo cwcio pizza ar ôl prynu popty pizza ar ddechrau'r cyfnod clo. Toes Neopolitan 65% hydration am 48 awr ydi'r 'go to' ar hyn o bryd.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gigs Welsh Pops yn Steddfod Y Fenni hefo Sŵnami, a Bodedern efo'r Eira ac Yws Gwynedd yn nosweithiau 'na i fyth anghofio. Oedd gweld Nic Parry o dy flaen yn canu hefo ti gair am air yn eitha cŵl.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Fysa'n dda mynd am beint efo un o'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr caneuon pop mwyaf llwyddiannus erioed, Max Martin o Sweden. Mae o wedi bod yn ysgrifennu a cynhyrchu hits ers y 90au ar gyfer pobl fel Britney Spears, The Weeknd, Kendrick Lamar (a lot mwy!) a fo ydi'r cyfansoddwr efo mwya' o No.1's erioed ar ôl Paul McCartney a John Lennon. Mae'n cadw ei fywyd a ffordd o weithio yn breifat a dawel iawn, felly 'sa'n dda cael ei gwmni am ddiod neu ddau er mwyn bachu rhai o'i syniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Max Martin - yr wyneb tu ôl i rai o ganeuon gorau'r 90au

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Y cwestiwn anodda' o bosib...

Cwrs cyntaf - rhyw fath o antipasto i gychwyn.

Prif gwrs - Cyri katsu.

Pwdin - Profiteroles Mam.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Elon Musk.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Huw Ynyr

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw