Ateb y Galw: Yr economegydd David R Williams

  • Cyhoeddwyd
David R WilliamsFfynhonnell y llun, David R Williams

Yr economegydd David R Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Ioan Pollard yr wythnos diwethaf.

Yn wreiddiol o Fae Colwyn, mae David wedi ymgartrefu ym Miami, Florida ers dros 30 mlynedd, ac yn rhedeg busnes sydd yn cynnig cyngor economaidd.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cerdded adref o Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, gyda het ysgol fflat, goch am fy mhen. (Mae'r het dal gen i!)

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pen Llŷn. Dydi o ddim wedi newid fawr ddim mewn 50-60 mlynedd. Heddwch, llonyddwch a llawer o ddefaid.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Raquel Welch ar ôl ei gweld hi yn y ffilm One Million Years BC. Doedd ganddi hi ddim llawer o linellau, ond beth oedd ots am hynny?!

Raquel WelchFfynhonnell y llun, Sunset Boulevard
Disgrifiad o’r llun,

Raquel Welch fel Loana yn y ffilm ffantasi o 1966

Beth yw dy hoff gân a pham?

Calon Lân wedi ei chanu gan lais pwerus Bryn Terfel.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dychwelodd fy merch ieuengaf, Gwyneth Megan, i'r brifysgol yn Boston ym mis Ionawr, ac o'n i'n beichio crïo.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i'n trio codi calon ffrind i mi oedd yn Ysbyty Gwynedd, a nes i godi jwg o'n i'n meddwl oedd yn llawn dŵr a'i dywallt drosta fi fy hun (troi allan mai wrin oedd o...). Roedd y nyrsys yn syn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn anffodus, alla i ddim mynd mewn i lawer o fanylder am hwn! Ond dwi'n cofio noson arall yng Nghaerdydd pan welais i a fy niweddar dad, John Eric, Gymru yn curo'r Eidal 2-1 yn 2002. Bryn Terfel ganodd Hen Wlad Fy Nhadau cyn kick-off, ac roedd hynny'n ddigon i ddychryn rhai o chwaraewyr yr Eidal!

Cymru v Yr EidalFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Simon Davies a Craig Bellamy sgoriodd y goliau yn un o'r gemau rhagbrofol ar gyfer pencampwriaeth Euro 2004

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae fy chwyrnu a'm tisian yn enwog am ddychryn plant bach ac anifeiliaid anwes...

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Triw, digymell ac, ar adegau, doniol tu hwnt.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cerdded i lawr i Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen am brunch cynnar, picio draw i Anfield ar gyfer gêm yn y prynhawn, ac yna mynd allan am noson a hanner i Gaerdydd gyda fy holl ffrindiau o Gymru!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi methu reidio beic dwy olwyn (roedd fy nhad yn llawer rhy warchodol ohonof).

line

O archif Ateb y Galw:

line

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail, porc pei oer gyda ffa pob poeth (Heinz), Eton Mess a gwydraid o wisgi Legend gan ddistyllfa Penderyn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Bob Marley, er mwyn ei glywed yn siarad am ei fagwraeth yn Jamaica a'r ysbrydoliaeth tu ôl i'w holl ganeuon reggae.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Hedd Wyn - stori hardd ond trist.

Huw Garmon a Judith HumphreysFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffilm Hedd Wyn ei henwebu am Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor yn 1993

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Alun Wyn Jones pan mae Cymru yn curo Lloegr!

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Ifan Davies

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw