Cannoedd wedi methu apwyntiadau i gael eu brechu
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl i bobl gadw apwyntiadau i gael brechlyn coronafeirws wedi i gannoedd fethu â'u cadw.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ddydd Llun fe fethodd bron i 500 o bobl eu hapwyntiadau.
Mewn canolfan frechu ym Mangor, yng Ngwynedd, cafodd apwyntiadau bron i 200 o bobl eu methu dros dridiau.
Mae sawl bwrdd iechyd arall hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr apwyntiadau a fethwyd, ac yn sefydlu rhestrau wrth gefn i frechu pobl dan 50 oed er mwyn osgoi gwastraffu brechlynnau.
Erbyn dydd Llun, roedd 1,413,710 o bobl yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn, sef 44.8% o'r boblogaeth, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd 7,016 yn rhagor wedi cael ail ddos, sy'n golygu bod 424,016 o bobl, sef 13.4% o'r boblogaeth, wedi cael y cwrs llawn.
Dim un achos newydd o geulad
Mae swyddogion iechyd yn pwysleisio bod y brechlynnau'n ddiogel, gan erfyn ar bobl i gadw'u hapwyntiadau.
Penderfynodd nifer o wledydd i atal rhoi brechlynnau AstraZeneca yn sgil pryderon yn ymwneud â cheulo'r gwaed, gan arwain at bryder bod rhai pobl yn gyndyn o gael eu brechu.
Dywedodd Prifysgol Abertawe ddydd Mawrth bod astudiaeth o 440,000 o bobl yng Nghymru oedd wedi cael eu brechu hyd at fis Ionawr heb ganfod yr un achos newydd.
Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe rybudd ar y cyfryngau cymdeithasol wedi i dros chwarter y bobl oedd wedi cael apwyntiadau mewn canolfan frechu fethu â'u cadw ddydd Llun.
Cafodd 28% o apwyntiadau eu methu, sef 492 o 1,750.
Mewn datganiad dywedodd y bwrdd: "Mae'r brechiad yn ddiogel, yn effeithiol ac yn un o'r ffyrdd y gwnawn ni ddod dros y pandemig yma. Rydym yn erfyn ar bawb sy'n cael gwahoddiad i gadw'u hapwyntiadau."
Erbyn dydd Mawrth roedd canran yr apwyntiadau a fethwyd wedi gwella.
"Nid ydym yn siŵr pam fu cynnydd sylweddol ddoe ond roedd wedi bod yn cynyddu dros y dyddiau diwethaf," meddai pennaeth rhaglen frechu'r bwrdd, Louise Platt.
"Heddiw roedd y gyfradd DNA (Did Not Attend) ar draws ein tair canolfan frechu [yn Sgiwen, Margam a Gorseinon] wedi gostwng i 16.5%, sydd yn dal yn uwch nag ein cyfartaledd dyddiol arferol o 6% ond mae'n mynd i'r cyfeiriad cywir."
'Rhoi straen mawr'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod dros 100 o gleifion wedi methu apwyntiadau yn Ysbyty Enfys Bangor dros y penwythnos, a 90 yn rhagor ddydd Llun.
Dywedodd y bwrdd bod "nifer o apwyntiadau gwag wedi mynd i wast a'r lleill wedi gorfod cael eu llenwi ar frys" i sicrhau bod "dim brechlyn wedi ei wastraffu".
"Oherwydd hyn, mae unigolion yn eu 40au wedi cael eu galw, i lenwi capasiti'r ysbyty enfys ar gyfer yr wythnos nesaf, ac i ddefnyddio'r brechlyn sydd ar gael yno."
Ychwanegodd y bwrdd fod methu apwyntiadau'n "rhoi straen mawr" ar feddygfeydd a'r bwrdd a'u bod "eisiau brechu pawb cyn gynted â phosib".
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd bod nifer yr apwyntiadau a fethwyd wedi cynyddu yn yr wythnosau diwethaf.
"Wrth i ni symud trwy'r grwpiau blaenoriaeth, mae cyfraddau DNA wedi cynyddu ychydig ac yn amrywio'n sylweddol rhwng canolfannau brechu," meddai cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd, Ros Jervis.
"Er mwyn sicrhau nad yw brechlyn yn cael ei wastraffu, rydym yn cynnal rhestr wrth gefn ar hyn o bryd ar gyfer staff cartrefi gofal, iechyd a gofal cymdeithasol yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 a 2 ac sydd, am ba bynnag reswm, wedi methu'r cyfleoedd cyntaf i gael eu brechu (gan gynnwys staff newydd)."
'Rhowch wybod i ni'
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg hefyd yn sefydlu rhestr wrth gefn er mwyn osgoi gwastraffu cyflenwadau'r brechlyn gan gynnig apwyntiadau i bobl rhwng 40 a 49 oed.
Mae hynny oherwydd "cynnydd bach yn nifer y bobl nad sy'n cadw'u hapwyntiadau" yng nghanolfannau brechu'r bwrdd.
Dywedodd cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad y bwrdd, Clare Williams: "Mewn rhaglen ar y fath raddfa, rydym yn wirioneddol ddiolchgar pan fo pobl yn gwneud eu gorau glas i gadw apwyntiad, ac yn deall na fydd hynny'n bosib bob tro.
"Y cyfan y gofynnwn yw i chi roi gwybod os nad ydych chi am ddod am ba bynnag reswm... mae'n golygu y gallwn sicrhau bod eich apwyntiad yn mynd i rywun arall."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol o achosion o bobl ddim yn mynychu apwyntiadau, gan ofyn i bobl roi gwybod i fyrddau iechyd os nad oes modd mynd am frechiad.
"Rydyn ni'n deall pwysigrwydd gwastraffu cyn lleied o frechiadau â phosib", meddai llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd bod gan fyrddau iechyd systemau i gynnig apwyntiadau i eraill ar fyr rybudd, a bod hynny wedi golygu bod y canran o frechlynnau sydd wedi eu gwastraffu "yn isel iawn, o dan 1%, yn sylweddol is na'r lefelau disgwyliedig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021