Adnabod corff trydydd pysgotwr cwch y Nicola Faith
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai corff Alan Minard, un o dri physgotwr a aeth ar goll oddi ar arfordir y gogledd ym mis Ionawr, a gafodd ei ddarganfod yng Nghilgwri dros bythefnos yn ôl.
Diflannodd Alan Minard, oedd yn 20 oed, a'r ddau bysgotwr arall wedi i'w cwch, y Nicola Faith, fethu â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr.
Roedd yr awdurdodau eisoes wedi adnabod cyrff Carl McGrath a Ross Ballantine wedi i'r tri gael eu darganfod oddi ar yr arfordir rhwng Cilgwri a Blackpool ganol Mawrth.
Dywedodd yr heddlu: "Mae'r teulu wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.
"Hoffai'r teulu ddiolch i'r gymuned leol a busnesau am eu cefnogaeth aruthrol a rhoddion, gan ofyn i bobl barchu eu preifatrwydd...
"Mae meddyliau pawb o fewn Heddlu Gogledd Cymru'n parhau gyda theuluoedd a ffrindiau'r tri physgotwr."
'Atebion i'r teuluoedd'
Parhau mae'r chwilio am gwch y Nicola Faith oddi ar arfordir y gogledd.
Wrth i'r ymdrech ailgychwyn ddydd Mawrth, ymunodd llong batrôl yr FPV Rhodri Morgan â'r chwilio o harbwr Conwy ynghyd â chwch sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan y llong ddyfais sonar all helpu ymchwilwyr y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB).
Dywedodd llefarydd: "Mae MAIB yn parhau i ganolbwyntio ar gael atebion i'r teuluoedd a dysgu beth aeth o'i le fel bod modd cymryd camau i atal yr un peth rhag digwydd eto."
Mae archwiliad preifat, sy'n cael ei ariannu wedi apêl ar y cyfryngau cymdeithasol gan deuluoedd y pysgotwyr, wedi dod cael ei atal dros dro nes bo'r tywydd wedi gwella digon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021