Cadarnhau mai corff pysgotwr coll a ganfuwyd
- Cyhoeddwyd

Carl McGrath gyda'i gariad Amy Lamb
Cafwyd cadarnhad mai corff un o dri physgotwr aeth ar goll ym mis Ionawr a gafodd ei ganfod ar draeth ger Blackpool.
Roedd Carl McGrath wedi bod ar goll ers i gwch pysgota y Nicola Faith fethu â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr.
Roedd dau ddyn arall - Ross Ballantine, 39, ac Alan Minard, 20 - hefyd ar y cwch pan aeth ar goll.
Roedd corff Mr McGrath yn un o dri ddaeth i'r fei oddi ar arfordir rhwng Cilgwri (Wirral) a Blackpool y penwythnos diwethaf.
Mae'r ddau gorff arall eto i'w hadnabod yn ffurfiol.

Roedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar y Nicola Fiath pan aeth ar goll
Cafwyd hyd i rafft achub y cwch oddi ar arfordir Yr Alban ddechrau Mawrth ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau mai rafft y Nicola Faith a ddarganfuwyd.
Dros y penwythnos fe wnaeth y chwilio ddechrau unwath eto i geisio dod o hyd i weddillion y cwch, gyda theuluoedd y tri oedd ar fwrdd y cwch yn talu am y chwilio yn dilyn ymgyrch codi arian.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021