Nwy mwstard ymhlith y gwenwyn mewn hen domenni sbwriel
- Cyhoeddwyd
Mae gwastraff gwenwynig yn cynnwys nwy mwstard wedi'i gladdu ar gannoedd o hen domenni sbwriel yng Nghymru.
Yn ôl yr ymgyrchwyr amgylcheddol Greenpeace, mae'r 1,572 lleoliad fel "bomiau'n tician".
Dengys data Cyfoeth Naturiol Cymru bod cannoedd o'r safleoedd yn cynnwys gwastraff peryglus ac mai dim ond degau oedd yn cynnwys leinin i'w diogelu.
Mae'r data'n dangos bod gwastraff tirlenwi o dan dai, canolfannau hamdden, ysbytai, parciau a glannau afonydd.
'Pob math o broblemau'
Dywedodd Dr Paul Johnston, o uned wyddoniaeth Greenpeace ym Mhrifysgol Exeter, bod amrywiaeth o broblemau ar y safleoedd.
"Mae llawer o'r safleoedd fel bomiau'n tician. Mae pob math o broblemau yn amrywio o asbestos i PCBs i ddeunydd ymbelydrol, ac i gemegau mwy diweddar fel PFOA a gwastraff plaladdwyr sydd wedi cael ei daflu mewn nifer fawr o leoliadau."
Cafodd PCBs, neu polychlorinated biphenyls, eu gwahardd yn 1986 ar ôl cael eu defnyddio ers y 1920au mewn gwahanol offer trydanol. Maent yn rhyddhau diocsin gwenwynig dros ben wrth gael eu llosgi
Mae PFOA, neu asid perfluorooctanoic yn cael ei ddefnyddio i wneud Teflon ac mae wedi cael ei gysylltu â chanser a namau mewn babanod.
Ychwanegodd Dr Johnston: "Gyda disgwyl i'r argyfwng newid hinsawdd ddod â mwy o lifogydd ac erydu ar yr arfordir, mae rhai o'r safleoedd yma ar hyd yn oed fwy o risg o ollwng eu cynnwys gwenwynig.
"Mae hon yn broblem anodd a chostus i'w thaclo, ond bydd rhaid gwneud hynny rhyw bryd neu fe fydd ambell i syrpreis annifyr i ddod."
Treuliodd Mike Brown, rheolwr gyfarwyddwr cwmni ymgynghori amgylcheddol Eunomia, 20 mlynedd yn rheoli safleoedd claddu gwastraff.
Dywedodd y byddai'r rhan fwyaf o'r safleoedd y sonnir amdanynt wedi cael eu "golchi drwodd" dros y blynyddoedd.
"Ni fydd y rhan fwyaf yn achosi problem," meddai.
Ond byddai gwaredu'r deunydd gwenwynig o'r safleoedd yng Nghymru yn gostus ofnadwy, meddai.
"Os oes gennych chi 200,000 tunnell byddai'n costio £40m i'w symud - mwy na hynny os yw'r gwastraff yn beryglus," meddai. "Ac ma gennych chi 1,500 o safleoedd i'w symud."
Dywedodd prif arbenigwr polisi gwaredu Cyfoeth Naturiol Cymru, Gareth Lewis, eu bod yn gweithio gyda chynghorau i geisio rhwystro hen safleoedd tirlenwi rhag dod yn fygythiad llygredd yn y dyfodol.
"Rydym eisoes wedi delio gyda nifer o safleoedd sydd wedi cau a allai fod wedi achosi llygredd fel arall," meddai Mr Lewis.
"Mae hen safleoedd trwyddedig fel rhain yn cael eu hadolygu'n gyson gennym ni a chynghorau lleol i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau'r risg i bobl, anifeiliaid a'r amgylchedd."
Yn ôl data Cyfoeth Naturiol Cymru mae:
Nwy mwstard a chemegau rhyfel eraill yn bresennol ar hen safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Rhydymwyn, Sir y Fflint.
Mae gwastraff gwenwynig ar domen a ddefnyddiwyd gan gwmni cemegau amaethyddiaeth Monsanto, yn Llwyneinion, near Wrecsam.
Mae gwastraff asbestos mewn hen chwarel ger Gwenfô ym Mro Morgannwg.
Yn hen ddepo arfau'r Llynges Frenhinol yn Nhrecŵn, Sir Benfro, nodir bod safle difa arfau a llosgi ffosfforws.
Yn Y Rhws, Bro Morgannwg, mae pridd wedi'r lygru ag asbestos ger Llwybr Arfordir Cymru.
Ym Mwcle Sir y Fflint mae'r data'n dangos gwastraff ymbelydrol lefel isel.
Arian i fynd i'r afael â llygredd tir
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £12m i Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau i ymchwilio, asesu risg, a gwneud gwaith adfer ar safleoedd tirlenwi.
"Rydym yn parhau i ddarparu arian i awdurdodau dderbyn hyfforddiant i ddelio gyda thir wedi'i lygru, i sicrhau y gall swyddogion reoli a rheoleiddio materion yn ymwneud a llygredd tir," meddai llefarydd.
Yn 2015 cytunodd cwmnïau Monsanto, BP a Veolia i gyfrannu at lanhau safle Chwarel Brofiscin, Llantrisant, lle mae gwastraff peryglus, petrogemegau, PCBs, toddyddion (solvents), hydrogarbonau, a chemegau'n gysylltiedig ag Agent Orange, chwynladdwr a ddefnyddiwyd gan fyddin yr Unol Daleithiau yn Fietnam, sy'n cael ei gysylltu gyda chyfraddau canser uwch a namau mewn babanod.
Mae cofnod yn Hansard o 2008 lle mae'r AS Mike Hancock yn holi yn y Senedd ynghylch lloi'n cael eu geni gyda namau ym Mrofiscin.
Yn Chwarel Cwmrhys, Llambed, nodir bod cyanide yn bresennol mewn cynhwysyddydion.
Ym Magillt, Sir y Fflint, dywedir bod tir wedi'i wenwyno ag arsenic.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020