Ymgymerwr yn 'trio ymlacio'r meddwl am angladdau'
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn flwyddyn galed i drefnwyr angladdau, sydd wedi wynebu'r her o alluogi teuluoedd i ffarwelio â'u hanwyliaid mewn modd urddasol er gwaetha' cyfyngiadau Covid.
Gyda gwasanaethau bellach yn cael eu ffrydio ar y we'n rheolaidd, mae'n newid mawr i'r drefn.
Ar Ynys Môn, mae 'na gynlluniau i sefydlu canolfan alaru mewn hen gapel yn Llangefni, lle bydd pob elfen o'r broses ar gael o dan un to - o drefnu'r angladd i gwnsela a chyngor ariannol wedi hynny.
Mae Arwel Hughes, o gwmni R. Hughes a'i Fab, eisiau codi'r llen ar waith trefnwyr angladdau.
Mae o hefyd yn apelio i'r cyhoedd i rannu eu hanesion ac atgofion am Gapel Penuel.
'Rhywbeth reit unigryw'
"Mi ddoth Capel Penuel, drws nesa' i'n swyddfa ni yn Llangefni, ar werth a 'da ni 'di bod yn ffodus iawn i fedru prynu fo," meddai Mr Hughes.
"'Da ni'n sbïo i 'neud ryw fath o hwb i'r gymuned, swyddfeydd i'r busnes - ond eto agor y capel i'r gymuned a dangos bod 'na elfen arall i waith ymgymerwyr.
"Mae'r adeilad yn mynd i ddal tua 280 o bobl, dwi 'di rhoi toiled anabl, swyddfeydd, 'stafell breifat i bobl ddod i ymweld, a chegin fach achos dwi'n gobeithio sefydlu Clwb Profedigaeth a chael cwnsela yma efo gwneud ewyllys a bob dim.
"Mae o'n rhywbeth reit unigryw ydy. Dwi'n trio ymlacio y meddwl am angladdau. Dim bod o'n hen ffasiwn ond mae eisiau moderneiddio.
"Fydda ni'n gallu streamio, mi fydd yr adnoddau ar gael yn yr adeilad. Felly mi fydd modd i unrhyw un sy'n dymuno streamio yn breifat neu i'r cyhoedd - fydd o i gyd yma."
Yn ôl Arwel Hughes, yr her fydd cael y cydbwysedd rhwng agor y safle a'r broses allan i'r cyhoedd, a chadw urddas a pharch yr holl sefyllfa.
"Mae lot yn d'eud mai 'chapel of rest' ydy o - wel ia mewn ffordd, ond capel ydy o, capel i'r gymuned.
"Dyna ydy'r hen ffordd, bod ymgymerwyr a 'chapel of rest' yn rhywbeth preifat.
"Ond dwi eisiau agor y drysau i hynna, dwi eisiau i bobl ofyn cwestiynau i mi, dwi eisiau medru esbonio be' ydy'n gwaith ni.
"Mae'r layout yn hollol agored. Yndi, mae'r 'stafell lle fasa nhw'n dod i weld eu hymadawedig yn hollol breifat - wrth gwrs ei fod o.
"Ond d'eud bod rhywun lleol eisiau cynnal cyfarfod, dangos fideo neu gynhadledd, fasa'r sgrin fawr a'r sgrins bach i gyd, system PA, system ddi-glyw yma. Dwi jyst yn really, really trio 'ngorau i agor y drysau hynny fedra' i."
Agor canolfan alar i'r cyhoedd
"Be' mae'r llywodraeth 'di d'eud 'da ni'n cael gwneud, niferoedd i angladd ac yn y blaen, mae o gyd wedi newid.
"Mae'r streamio wedi bod yn elfen fawr o'n gwaith i gael bobl i allu gweld gwasanaethau eu teulu a'u ffrindiau. Mae o'n rhywbeth 'da ni wedi gorfod datblygu'n sydyn.
"Y camau nesa' rŵan fydd gorffen y gwaith tu mewn - a llnau, paentio, gwaith coed. Mae'n dod yn slo bach a 'da ni'n gobeithio bod mewn erbyn Mehefin."
Fel unrhyw hen gapel, mae 'na ddigon o hanes i'r adeilad ac mae Arwel Hughes yn apelio ar i'r cyhoedd ei helpu i roi stori Penuel ar gof a chadw.
"Dwi'n dysgu bob dydd, dwi'n ymchwilio a dwi'n holi pobl leol sydd yn taro'u pennau mewn," meddai.
"Ond dwi yn gofyn i rywun sydd wedi cael rhywbeth i wneud 'efo Capel Penuel - oes ganddyn nhw hen luniau, straeon. Faint maen nhw'n ei wybod am yr hen Christmas Evans?
"Dwi'n gwybod bod o 'di bod yn perthyn i Gapel Cildwrn. Dwi'n siŵr bod Penuel 'di cael ei sefydlu ar ôl Cildwrn ond dwi ddim yn gwybod yr hanes cywir.
"Dwi'n edrych ymlaen i allu 'sgwennu'r stori ar y wal yn rywle neu roi lluniau fyny. Dwi'n agor y waliau, os oes 'na ryw artist lleol eisiau arddangos eu gwaith, lle gwell na fan hyn?
"Dwi'n hollol agored i unrhyw syniad!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017