Etholiad Senedd 2021: Barn pobl Eglwyswrw yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
taith etholiad Garry Owen

Wrth i etholiad Senedd Cymru ddod yn nes mae Garry Owen, gohebydd arbennig Dros Frecwast, ar daith etholiadol o gwmpas Cymru. Ei fwriad yw ymweld â mannau sy'n dechrau â'r llythrennau sy'n ffurfio y gair SENEDD - mae e eisoes wedi bod yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr a'r wythnos hon bu'n ymweld â thrigolion ardal Eglwyswrw yn Sir Benfro.

Wrth iddo holi pa bynciau a ddylai gael sylw yn ystod yr ymgyrch ac wedyn - dyma rai o'r atebion.

Manon Kynaston - Cydlynydd Prosiect Ynni Morol Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Mae argyfwng hinsawdd ac adfer o'r pandemig yn bwysig i Manon Kynaston

"Mewn ardal brydferth fel Sir Benfro mae defnydd cynaliadwy o'n harfordir ni yn holl bwysig i nifer fawr o sectorau a bobl leol.

"Hefyd sut ry'n ni yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a sut ry'n ni'n gallu adfer o'r pandemig drwy ddulliau gwyrdd sy'n ein galluogi i gael swyddi da hir dymor mewn ardal fel hon.

Olwen Thomas - ffermio gyda'r teulu tu allan i Abergwaun

Disgrifiad o’r llun,

Amaeth, addysg ac iechyd sy'n bwysig i Olwen Thomas

"Y pynciau pwysig i fi yw amaeth am fod fy meibion yn ffermio a ges i fy magu ar fferm. Hefyd iechyd a dyfodol ysbyty Llwynhelyg ac addysg gan bod fy wyrion ac wyresau yn yr ysgol.

"Mae rhain yn bynciau dwi'n meddwl fyddai yn craffu arnyn nhw yn y maniffestos ddaw trwy'r drws yn yr wythnose nesa."

Heledd - Aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw a myfyrwraig

Disgrifiad o’r llun,

Heledd yw'r unig ferch o'i blwyddyn ysgol sydd ar ôl yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw

"Mae'r clwb ffermwyr ifanc yn bwysig i fi. Dyna sy wedi fy natblygu fel person. Yn anffodus mae dyfodol Clwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw yn rhywbeth sy'n poeni fi a llawer o bobl eraill.

"Fi yw yr unig ferch o'm blwyddyn ysgol i sy' ar ôl yn y clwb. Ma' pawb arall wedi symud i'r dinasoedd i chwilio am swyddi. Be ddigwyddith os yw ein hieuenctid ni gyd yn symud bant?"

Fflur - Aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw

Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen edrych ar yr effaith negyddol y gall twristiaeth gael ar ein hamgylchedd," medd Fflur

"Mae'n hamgylchedd yn dirywio oherwydd y pwysau ar orllewin Cymru.

"Ry'n ni'n gweld yr holl dwristiaid ac ymwelwyr yn cyrraedd yr ardal hon yn enwedig adeg gwyliau.

"Dwi'n meddwl bod angen edrych ar yr effaith negyddol y gall twristiaeth gael ar ein hamgylchedd ni. Rwy'n ofni bydd hyn yn cael ei anwybyddu a'r sylw yn troi at bynciau mwy gwleidyddol."

Pynciau cysylltiedig