Cwch ar goll: Darganfyddiad 'arwyddocaol'
- Cyhoeddwyd

Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i'r cei yng Nghonwy
Mae cwch wedi ei ddarganfod wedi suddo oddi ar arfordir gogledd Cymru, medd y corff sy'n ymchwilio i ddiflaniad cwch pysgota lleol y Nicola Faith ddechrau'r flwyddyn.
Methodd y Nicola Faith, a'r tri physgotwr oedd arni - Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath - â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr.
Mae'r awdurdodau eisoes wedi adnabod cyrff y tri yn ffurfiol, wedi iddyn nhw gael eu darganfod oddi ar yr arfordir rhwng Cilgwri a Blackpool ganol Mawrth.
Ddydd Mawrth fe ddywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) bod cwch wedi'i ddarganfod wedi suddo yn y môr yn ardal Bae Colwyn.

Cafwyd hyd i gwch wedi suddo tua dwy filltir o'r tir agosaf yn Llandrillo-yn-Rhos
Dywedodd llefarydd: "Mae cwch wedi suddo, sy'n cael ei ystyried o arwyddocâd sylweddol, wedi ei ganfod yn ardal Bae Colwyn gan long wedi'i chomisiynu gan MAIB i chwilio am y cwch coll, Nicola Faith.
"Mae'r Prif Arolygydd Damweiniau Morol wedi cyhoeddi 'Rhybudd Atal Mynediad' o amgylch y llong ddrylliedig sy'n gofyn am beidio â tharfu arni hyd nes ymholiad pellach gan MAIB."
Mae'r rhybudd yn atal cychod eraill rhag angori, pysgota a phlymio o fewn 200 metr o'r cwch wedi suddo.

Roedd Alan Minard yn 20 oed, Ross Ballantine yn 39 a Carl McGrath yn 34
Ymunodd llong batrôl yr FPV Rhodri Morgan â'r chwilio o harbwr Conwy dros wythnos yn ôl ynghyd â chwch sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd teuluoedd y pysgotwyr hefyd wedi trefnu archwiliad preifat yr dilyn apêl ariannu torfol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021