Carcharu cyn-ŵr cyflwynydd tywydd am ei stelcio

  • Cyhoeddwyd
Jonathan WignallFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Jonathan Wignall yn "fwli di-baid, meddiannol"

Mae cyn-ŵr cyflwynydd tywydd gyda ITV Cymru wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gynnal ymgyrch naw mlynedd o reoli ymddygiad, aflonyddu a stelcio yn ei herbyn tra eu bod nhw'n briod.

Roedd Jonathan Wignall, 54, wedi gosod rhybuddion ar ei ffôn ar gyfer ymddangosiadau Ruth Dodsworth ar y teledu, wedi defnyddio ei holion bysedd i gael mynediad i'w ffôn tra roedd hi'n cysgu, ac wedi gosod dyfais ar ei char a fyddai'n rhoi gwybod iddo ble'r oedd hi.

Ddydd Mercher clywodd llys fod Wignall yn "fwli di-baid, meddiannol" gydag "balchder bregus" a oedd wedi cyhuddo Ms Dodsworth, 45, dro ar ôl tro o fod yn anffyddlon yn ystod eu perthynas.

Gwrthododd ganiatáu iddi deithio i leoliadau ffilmio hebddo, byddai'n dod i stiwdio ITV Cymru yng Nghaerdydd yn ddirybudd, a'i gorfodi i dreulio ei hawr ginio gydag ef yn y maes parcio.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y ddau wedi cwrdd yn 2001, flwyddyn ar ôl i Ms Dodsworth ddechrau ar ei swydd yn cyflwyno'r tywydd, a'u bod nhw wedi priodi yn 2002.

Ond dechreuodd ymddygiad Mr Wignall tuag at ei wraig newid tua 2010 pan symudodd y cwpl o Abertawe i'r Bontfaen, a phan ddechreuodd hi ennill mwy nag ef wedi i'w fusnes clwb nos fethu.

Dywedodd yr erlynydd Claire Pickthall: "Nid oedd y newid deinameg yn y cartref yn un hawdd i'r diffynnydd ei dderbyn.

"Cynyddodd ei ddefnydd o alcohol, fel y gwnaeth ei ymddygiad rheolgar tuag at Ms Dodsworth."

'Ymddygiad meddiannol'

Ar un achlysur ym mis Hydref 2016 roedd aelodau'r teulu yn dyst i achlysur pan gafodd Ms Dodsworth ei gwthio gan Mr Wignall gan achosi iddi dorri asen, ac ar achlysur arall fe welson nhw e'n ei gwthio a gafael ynddi gerfydd ei gwddf.

Dywedwyd yn ystod y gwrandawiad bod Mr Wignall wedi galw ei wraig yn "ddiangen" pan oedd yn gweithio i ffwrdd, ac y byddai yn agor ei phost ac yn sefyll y tu allan i'r drws wrth iddi ddefnyddio'r ystafell ymolchi.

Byddai hefyd yn mynd gyda hi i apwyntiadau meddygon ac yn ei holi am natur ei pherthynas gyda gwahanol gysylltiadau ar ei ffôn.

Dywedodd Ms Pickthall: "Ar un achlysur fe ddeffrodd Ms Dodsworth yn ystod y nos i ddod o hyd i'w gwr yn gosod blaen ei bysedd yn erbyn ei ffôn er mwyn iddo gael mynediad at ei ffôn tra roedd hi'n cysgu."

Pan benderfynodd Ms Dodsworth yn y pen draw i beidio â dychwelyd adref ar ôl shifft gwaith ar Hydref 17, 2019, fe ffoniodd Mr Wignall hi 155 o weithiau a bygwth lladd ei hun er mwyn iddi ddychwelyd.

Pan gafodd y diffynnydd ei arestio y bore canlynol ar amheuaeth o aflonyddu, dywedodd wrth yr heddlu: "Aflonyddu? Ond hi yw fy ngwraig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth Dodsworth bod ei hyder a'i hiechyd corfforol wedi dirywio dros y flwyddyn ddiwethaf

Cafodd Mr Wignall ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach, ar yr amod nad oedd yn cysylltu â Ms Dodsworth.

Ond erbyn mis Rhagfyr 2019, yn dilyn cyfres o negeseuon a anfonodd e at aelodau'r teulu am ei lleoliad hi, cafodd amheuon eu codi ei fod wedi plannu dyfais olrhain ar ei char.

Cafwyd hyd i'r traciwr, a daeth yr heddlu o hyd i ap ar ei ffôn a'i liniadur wedi'i gysylltu â'r ddyfais ynghyd â larwm ar ei ffôn i roi gwybod iddo pan oedd Ms Dodsworth yn cyflwyno'r tywydd ar y teledu.

Cyn iddo fod i sefyll ei brawf fis diwethaf fe blediodd Wignall yn euog i un cyfrif o ymddygiad gorfodol a rheoli a stelcio.

Dywedodd Ms Dodsworth wrth y llys trwy fideo ei bod wedi wynebu "dyledion trwm" ar ôl darganfod bod ei gŵr wedi benthyg arian yn ei henw hi.

Yn fuan ar ôl iddo gael ei arestio dywedwyd wrthi ei bod angen gadael ei chartref am fod Mr Wignall wedi methu â thalu biliau, a'i fod e hefyd wedi gwerthu gemwaith yn eiddo iddi hi am arian parod.

'Dim edifeirwch'

Wrth frwydro dagrau, dywedodd Ms Dodsworth wrth y llys: "Oherwydd fy ngyrfa deledu rwyf wedi gorfod ceisio portreadu personoliaeth hapus, hapus, tebyg i heulwen bob dydd, pan oeddwn i, mewn gwirionedd yn teimlo i'r gwrthwyneb."

Dywedodd Ms Dodsworth ei bod wedi cael ei gadael yn teimlo'n "ddiraddiedig" yn y gwaith oherwydd bod cydweithwyr yn dyst i ymddygiad ei chyn bartner, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd ei hyder a'i hiechyd corfforol wedi dirywio.

Dywedodd Dyfed Thomas, ar ran yr amddiffyniad, fod Mr Wignall yn arfer rhedeg "busnes rhyfeddol o lwyddiannus" gyda'r clwb nos Escape yn Abertawe a gŵyl flynyddol Escape In The Park y ddinas, cyn i'r ddau "fethu" a bod hyn wedi effeithio ar ei berthynas â Ms Dodsworth.

Dywedodd fod y diffynnydd wedi "dotio" arni, a'i fod yn "flin am ei ymddygiad".

Ond dywedodd y Barnwr Daniel Williams wrth Mr Wignall: "Mae'n amlwg nad oes gennych edifeirwch am yr hyn rydych chi wedi'i wneud.

"Ar yr wyneb rydych chi'n ymddangos fel dyn busnes parchus ond llwyddiannus.

"Dydych chi ddim.

"Rydych chi'n ffantasïwr gyda balchder bregus sy'n eich gwneud chi'n fwli di-baid, meddiannol", ychwanegodd Barnwr Williams.

Cafodd Mr Wignall ei ddefrydu i gyfanswm o dair blynedd dan glo, a bydd yn treulio hanner hynny yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar drwydded, a chafodd orchymyn i beidio a chysylltu â Ms Dodsworth hefyd.

Pynciau cysylltiedig