Merch ysgol, 16, wedi marw o ganlyniad i 'bwysau ar wddf'

  • Cyhoeddwyd
Wenjing LinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Wenjing Lin ei bod yn "berson tawel iawn"

Bu farw merch ysgol, a gafodd ei chanfod ym mwyty ei theulu, ar ôl i bwysau gael ei roi ar ei gwddf, mae cwest wedi clywed.

Daeth mam Wenjing Lin, 16 oed, o hyd iddi yng nghegin eu cartref uwchben bwyty Blue Sky yn Ynys-wen, Rhondda ym mis Mawrth.

Mae Chun Xu, 31, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth. Nid yw'n perthyn i Ms Lin.

Clywodd cwest ddydd Gwener bod mam Wenjing wedi dod o hyd iddi yn y gegin.

Yn ddiweddarach, cafwyd cadarnhad ei bod hi wedi marw.

Roedd Ms Lin yn byw yn yr eiddo gyda'i mam, ei llystad, a dyn arall a oedd yn aros yn y cartref adeg y farwolaeth.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar 6 Mawrth a rhoddwyd achos marwolaeth dros dro fel pwysau ar y gwddf gydag ymchwiliad pellach i ddilyn.

Penderfynodd y crwner David Regan ohirio'r cwest ond ni chafodd dyddiad newydd ei gyhoeddi er mwyn caniatáu i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Wenjing Lin ei ddarganfod gan ei mam yng nghegin cartref y teulu yn Ynyswen, Treorci

Ymddangosodd Chun Xu yn Llys y Goron Caerdydd ar 25 Mawrth lle siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn y gwrandawiad nesaf ar 20 Awst.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad ar wahân o geisio llofruddio dyn 38 oed.

Adeg ei marwolaeth dywedodd Ysgol Gyfun Treorci bod "marwolaeth sydyn Wenjing Lin yn drasiedi ac wedi cael effaith ddinistriol ar ein hysgol ac yn arbennig ar ei grŵp cyfeillgarwch a Blwyddyn 11".

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu bod gan Wenjing "enaid tyner iawn, roedd hi'n berson tawel iawn".

"Fe wnaeth Wenjing helpu'r teulu cyfan, gan weithio yn y tecawê teuluol. Roedd hi'n mwynhau'r ysgol ac yn gweithio'n galed iawn. Roedd ei theulu'n ei charu."