Seren Cymru a'r Llewod, John Dawes wedi marw yn 80 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten a hyfforddwr Cymru a'r Llewod, John Dawes wedi marw yn 80 oed.
Fe wnaeth Dawes ennill y cyntaf o'i 22 cap dros Gymru yn 1964, a bu'n gapten ar y tîm ar chwe achlysur, gan eu harwain at Gamp Lawn yn 1971.
Ef hefyd oedd capten y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 1971 - yr unig dro erioed i'r Llewod ennill cyfres yn erbyn y Crysau Duon.
Wedi iddo ymddeol o chwarae bu'n hyfforddwr ar y tîm cenedlaethol mewn cyfnod welodd Cymru'n ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad ar bedwar achlysur a'r Gamp Lawn ddwywaith.
Roedd hefyd yn hyfforddwr ar y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 1977.
Roedd yn gapten ac yn hyfforddwr ar Gymry Llundain hefyd yn y 60au hwyr a'r 70au cynnar - tîm oedd yn cynnwys sêr fel Mervyn Davies, JPR Williams, John Taylor a Gerald Davies.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd clwb cyntaf Dawes, Clwb Rygbi Trecelyn yn Sir Caerffili, ddydd Gwener: "Bydd pawb sy'n rhan o'n gêm yn ymwybodol o stori John a'i lu o orchestion.
"Fe ddechreuodd ei yrfa rygbi yma gyda ni. Mae pawb o Glwb Rygbi Trecelyn yn cydymdeimlo gyda theulu John ar yr amser trist iawn yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2017